Tudalen:Tro i'r De.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

teyrnas Dduw. Yr oedd tlysni meddyliau am fyd heb drueni wedi eu dallu, yr oedd eu brwdfrydedd wedi dallu eu ffydd. "Pe gwneid y Cymry mor aiddgar dros wleidyddiaeth ag ydynt dros grefydd," meddai gwleidyddwr o Sais am danynt yr adeg honno, "byddai eu sel yn gaffaeliad amhrisiadwy." Nid dynion di-werth oeddynt, ond dynion yn pryderu ddydd a nos am gyflwr eu cyd-ddynion, bu un o leiaf o honynt yn ymladd dros y caethion yn Amerig, dynion diwyd a gonest oeddynt pan ddaethant o'u carchar. Ac erbyn hyn y mae eu meibion wedi cael ymron yr oll a geisient hwy. Dywedir i mi fod gwaed y Siartwyr yn Llanidloes eto. A ydyw hynny'n wir?

Yr oedd y dyn mawr a'r dyn bach yn dechre blino ar ysgwrs fel hyn, hawdd oedd gweled eu bod yn ceisio dyfalu beth oeddwn, ac y buasent yn hoffi ymgom fwy personol. A phan dewais, dechreuodd y dyn bach bysgota am wybod- aeth,—

"Blonged i ffatri'r ydech chi?"

"Buasai'n dda gennyf feddu ar wybodaeth am weithrediadau llaw-weithfeydd."

"Gwerthu slêts?"

"Ni fyddaf byth yn dweyd fy hanes fy hun with undyn. Ar egwyddorion, nid ar bersonau y byddaf yn traethu fy syniadau."

"Dim ods, syr, dim ods yn y byd. Meddwl 'roeddwn i fod gennoch chi ryw newydd. Ma hi'n bur fflat yma yrwan, syr, y mae cannoedd o dai'n segur.'

Mae digon o waith," ebe'r dyn mawr, "cael dynion i'w wneyd o ydi'r gamp."