Tudalen:Tro i'r De.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ie," ebe'r bach, ond rhaid mynd o Lanidloes i'w gael o. Mae pawb yn ffond iawn o'i gartre, a 'rydw i wedi treio pob peth i gael bod yma. Mi fum yn y ffatri tan losgodd hi, ac yn y gwaith mwn tan stopiodd o. Ma yma le brai, ma'n biti gorfod mynd oddyma. Cerwch chi i fynu hyd y ffordd yma, gael i chi weld brafied gwlad ydi hi."

Cerddais innau dros y bont, a dringais y bryn yr ochr draw iddi, heibio ffatri losgwyd, ffatri heb ddim ond muriau moelion a chorn simddeu uchel yn aros ar lan y dŵr. I ba gyfeiriad bynnag yr ewch o Lanidloes, byddwch yn y mynydd toc, ymysg creigiau ac eithin melyn. A daeth awel gynnes drwy'r cwm i'm cyfarfod, awel oddiar Blunlumon, yn llawn o iechyd adfywiol. Ar fy ffordd gwelais lawer ffatri ar lan aberoedd mewn hafannau dymunol, a bechgyn gyda gwynebau deallgar yn cario beichiau o wlan. Meddyliais am olygfeydd erchyll a thrueni a themtasiynau'r trefydd mawr, gwelais mor iach a dedwydd y dylai bywyd fod yn y gweithfeydd hyn. Hwyrach y daw'r amser pan y defnyddir gallu dwfr aberoedd Cymru, ac y gwelir ochrau ein mynyddoedd yn llawn o weithfeydd prysur dedwydd. Ac erchylldra a phechod y trefydd mawrion ni bydd mwy.

Bum yn syllu'n hir, oddiar ben bryn, ar y mynyddoedd sy'n amgylchu Llanidloes, tarddleoedd yr Hafren a'r Wy. Cofiwn nad oes odid ardal ar lannau'r afonydd hyn heb golli eu Cymraeg, ac y mae Saesneg yn ymlid yr hen iaith yn galed i fyny at ffynhonellau'r ddwy afon. Yr ochr hon i'r mynyddoedd, Llanidloes yn unig sydd wedi cadw ei Chymraeg, a rhaid fod cariad