Tudalen:Tro i'r De.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei thrigolion at eu hiaith yn angerddol cyn y buasai wedi gwrthsefyll Saesneg cyhyd. Ni chlywir gair o Gymraeg yn ei heglwys, mi glywais,— gobeithio nad yw'r hyn a glywais yn wir; ni ddysgir Cymraeg yn ei hysgolion, y dref wnaeth gymaint dros lenyddiaeth Cymru; ei phulpudau Ymneillduol a'i haelwydydd yw unig noddfeydd yr iaith Gymraeg.

"Peth digon pruddglwyfus," ebe rhywun, "ydyw edrych ar iaith henafol yn marw yn ei chwm olaf, ond pa golled sydd oddigerth i deimlad Cymro?" Y mae colled anrhaethol. Dowch i lawr i'r orsaf obry, edrychwch ar y llyfrau Saesneg werthir yno,—llyfrau'n gwanhau meddwl, yn dirywio chwaeth, yn llygru moes, trwyddynt hwy y mae Saesneg yn dod i Lanidloes. Nid mater o golli iaith ydyw i ardal golli ei Chymraeg,—cyll nerth ei mheddwl ar yr un pryd. Nid oes yn y byd foddion addysg fel Llenyddiaeth Cymru: dalied pob Cymro ei afael yn yr hen iaith, a dysged Saesneg hefyd.

Wrth ddod i lawr i Lanidloes yn fy ol, er mawr lawenydd i mi, cyfarfyddais weinidog Bethel. "Rhaid i chwi ddod gyda mi heno i edrych am Hafrennydd," meddai. "chwi a'i cewch yn un wrth fodd eich calon." A phenodasom awr i fynd. Yno cawsom hanes ymdrech Llanidloes i ddyrchafu ac i buro chwaeth gerddorol Cymru.

Wrth adael ty yr hen frawd mwyn, gydag adlais ei "Landinam" yn fy nghlustiau, clywais beth o Saesneg truenus y dre. Rhyw hanner Cymraeg a hanner Saesneg ydyw, clywais son am "top o' town." a chlywais am un yn