Gwirwyd y dudalen hon
III. LLANFAIR MUALLT.
Pur wladgarwch, rhinwedd yw
A roed yng nghalon dynol ryw.
Os aiff yr iaith Gymraeg yn fud,
Caiff Saesneg ganu,-Oes y byd
I bur wladgarwch Cymru fyw."
—CEIRIOG.
YN yr haf diweddaf, yr wyf yn cofio fy hun ar dren bore, ac yn cael fy ngwthio i un o'r cerbydau gan dri neu bedwar o ddynion oedd yn gorfod rhedeg gyda'r tren wrth wneyd y gymwynas hon imi. Wedi sychu fy chwys, a threulio ennyd i fwynhau'r syniad fy mod wedi cael y tren, a pha syniad sydd felusach, os byddis wedi ei gael yn erbyn gobaith,—teflais drem ar fy nghyd-deithwyr. Yr oedd yno wraig chwarelwr, yn mynd ar ol ei gŵr i'r gweithydd, a chwaer iddi, a phedwar o blant. Yr oedd y