Tudalen:Tro i'r De.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

plant y pethau mwyaf gwinglyd welais erioed, weithiau ar eu gliniau, weithiau dan y fainc, ac weithiau ar fy ysgwydd i. "Fedra i mo'i cadw nhw'n llonydd, mae nhw wedi codi er tri o'r gloch y bore," meddai eu mam. "O na hidiwch," meddwn innau, gyda gwên wan, tra'r oedd un o'r bechgyn bach yn rhwbio ei ddwylaw triagl hyd labed fy nghot newydd. Nid oedd ar y plant ddim o ofn eu mam, ond yr oedd edrychiad yng nghil llygad y fodryb a'u tawelai ar unwaith. Dywedasant eu bod yn mynd i fyw i Forgannwg am byth, ac yn gadael Arfon.

"Mi fydd arnoch chwi hiraeth mawr am Arfon," meddwn i, gan feddwl am fwg Morgannwg ac aberoedd pur Arfon.

"Bydd yn wir, welwch chwi," ebai'r fam, y mae arna i hiraeth garw'n barod am y cloc bach adewais i ar f'ol."

Gwelais ar unwaith nad oeddwn wedi taro ar gymdeithion prydyddol iawn; ond, tra'r oeddynt yn cael mwynhad o botel lefrith a chilcin torth chwech, bum yn synnu at un peth wrth edrych arnynt. A'r un peth hwnnw oedd. -paham y mae gwragedd chwarelwyr yn aml mor grand eu gwisg, a phaham y mae eu crandrwydd mor ddichwaeth. Yr oedd gwisgoedd y ddwy wraig hyn yn dangos dau beth sy'n wrthun iawn gyda'u gilydd,—balchder gwisg, a thlodi gwisg. Yr oeddynt wedi cael dillad o'r toriad newyddaf ar hyd y blynyddoedd diweddai, a phob toriad yn berffaith afresymol; yr oeddynt wedi cymysgu gwahanol ffasiynau, heb ymgais at drefn a chwaeth; ac yr oedd y dillad crand wedi mynd yn shabby iawn. Ewch