Tudalen:Tro i'r De.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i gynulleidfa o chwarelwyr yn Arfon ar y Sul, a gallech dybied mai mewn cynulleidfa ffasiynol ym Mharis yr ydych; cerddwch drwy'r pentref ar fore dydd Llun, a thybiwch eich bod yn cerdded drwy ran isel o Lunden, lle mae pawb wedi cael eu dillad o siop ail law. Yn enw pob rheswm, beth ydyw'r awydd pechadurus sydd mewn rhai mannau o Gymru am ddillad ymddangosiadus, cymysgliw, dichwaeth? Yr wyf fi'n byw mewn ardal fynyddig, ac y mae rhyw ffasiwn newydd erchyll ar ddillad y merched o hyd, nes gwneyd i mi feddwl am y creaduriaid cyn-ddiliwaidd welir yn rhai o'n hamgueddfeydd. Y mae llawer gwraig yn gwybod fod yr hen ffasiwn syml yn gan prydferthach a rhatach; clywais am ferched wedi mynd at y stanc i'w llosgi, ond ni chlywais erioed am un wedi bod ar ol y ffasiwn un munud yn hwy nag y medrai.

O'r tu allan yr oedd prydferthwch perffaith. wrth i'r tren ddringo i fyny dyffryn cul afon Tylwch. Disgynnai'r afon i'n cyfarfod, o graig i graig, o lyn i lyn. Yr oedd gwaelod y cwm yn llawn o goed gwern, gydag ambell binwydden yn eu mysg, fel merch ieuanc o'r dref yng nghanol merched y wlad. Hyd yr ochrau dis- gynnai aberoedd bychain rhaiadrog, gan ganu a dawnsio wrth adael y mynyddoedd. Ond y gweirgloddiau oedd yn brydferth. Y mae'n anodd cael dim prydferthach na gweirglodd yng Nghymru ym mis Mehefin; pan feddylir am gyfoeth ac ysblander lliwiau ei blodau. Dacw flodau melynion,—nid melyn gwywedig dillad siop neu aur, ond melyn byw, melyn fel pe bai bob amser dan ei wlith. Llwyni o fanadl wrth