Tudalen:Tro i'r De.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

draed y creigiau, tlws crwn o flodau'r ymenyn ar iron y weirglodd, a llanerchi o grafanc y fran yn disgleirio ar yr ochr fry, yn sicr, ni wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o'r mynyddoedd hyn.

Ond dyma ni yn Sir Faesyfed, yr unig un o siroedd Cymru sydd wedi llwyr golli ei Chymraeg. Cyn dod i Sir Faesyfed, yr oeddwn yn rhyw feddwl na fyddai Cymru'n Gymru pe, mewn rhyw oes bell, y marwai'r iaith Gymraeg. Ond nid oes fymryn o wahaniaeth rhwng pobl Maesyfed a phobl Maldwyn, oddigerth, hwyrach, fod Maesyfed ychydig bach yn fwy ar ol yr Cymry wedi dysgu Saesneg ydyw pobl Maesyfed, a Chymry fyddant. Y maent wedi dysgu Saesneg i gyd yr wyf yn meddwl nad oes blwy Cymreig trwy'r sir. Clywir ambell hen bererin yn dweyd ei brofiad yn y seiat yn Gymraeg ar gyffiniau Brycheiniog; y seiat, mae'n debyg, fydd noddia olaf yr iaith Gymraeg. Ond y mae eu hymddangosiad, a'u syniadau, a'u crefydd mor Gymreig â rhai pobl Llangower neu Drawsfynydd. Er hynny y mae'n rhyfedd meddwl fod Cymry sir gyfan heb ganu emynnau Williams Pant y Celyn ac heb fwynhau caneuon Ceiriog, y mae'n rhyfedd meddwl fod Cymry sir gyfan yn cael eu meddyliau o'r Beibl Saesneg, y Christian Herald, a'r Herefordshire Times. Bum yn synnu droion paham y mae llenyddiaeth Seisnig Cymru mor wael o'i chymharu â'i llenyddiaeth Gymreig, paham y mae hanes meddwl Cymru Seisnig,—dyffryn Hafren, Maesyfed, a deheudir Penfro,—mor dlawd. Hwyrach mai y rheswm ydyw na fu'r Deffroad ond gwleidyddol yn unig yn y rhannau hyn. Pa fodd