Tudalen:Tro i'r De.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bynnag, y mae rhyw gryfder ym meddwl Cymru Gymreig nad ydyw Cymru Seisnig wedi ei feddu eto.

Ond dyma ni ym Mhant y Dŵr. Dacw fynyddoedd pell, dan glog o wlaw llwyd; ac y mae Abbey Cwm Hir, dros fynyddoedd oerion, ar y chwith inni. Y mae'r wlad yn mynd yn fwy mynyddig, a dyma'r tren yn cyflymu drwy wlad agored oer. Ar y gwaelodion yr oedd yr yd wedi hen ehedeg, ond yma prin y mae'r egin glas wedi cuddio'r rhychau.

"Yn Hafod Elwy'r gog ni chân,
Ond llais y frân sydd amla;
Pan fo hi decaf ym mhob tir,
Mae hi yno'n wir yn eira."

Dyma St. Hermon, a gwastadedd mynyddig brwynog, a chylch o fynyddoedd o'i gwmpas. Yna dyma'r mynyddoedd yn cau at eu gilydd, ac—mae'n amhosibl i ni ddyfalu ffordd yr awn, oherwydd yr ydym fel pe wedi cyrraedd pen draw'r byd. Dyna ni mewn tynel; a phan ddaethom allan, yr oeddym yn nyffryn Gwy. Gwyllt ac aruthrol, ac eto tlws a rhamantus iawn, ydyw'r mynyddoedd hyn. Wrth i'r tren ruthro i lawr tua Rhaeadr Gwy, ymagorai cwm ar ol cwm o'n blaenau, gyda dwfr yn disgyn ymhell oddiwrthom, a'r pellder yn ei wneyd yn ddistaw fel esgyniad mŵg. Tra'n aros ennyd i'r tren gael ei anadl, ymsyniwn faint o Gymraeg siaredir yn awr yn Rhaeadr Gwy. Yn 1803 y bu farw John Thomas o Raeadr Gwy, a daw ei gyfieithiad melodaidd o bennill Dr. Watts i'm meddwl, a gwyn fyd na