Tudalen:Tro i'r De.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Erbyn cyrraedd Pont Newydd ar Wy y mae'r wlad wedi ffrwythloni llawer, y mae'n wlad goediog a gweiriog. Newbridge on Wye ddylaswn alw'r lle hwn hwyrach, oherwydd dyna'r enw sydd ar ystyllen yr orsaf. Ond, wrth edrych dros y gwrych, gwelaf fod yr orsaf yn ymyl mynwent, ac y mae'r beddau yn ddigon agos i mi ddarllen yr enwau sydd ar y cerrig,— megis Hannah Meredith, David Powell, Rhos y Beddau, Pandy Hir. Peth digon rhyfedd ydyw gorsaf a mynwent yn ymyl eu gilydd. Beth pe bai rhyw borter ofnus, wrth waeddi yn y nos "Take your seats, all tickets ready," yn gweled tyria'n codi am y gwrych ag ef? Ac eto digon tebyg ydyw mynwent i orsaf, ond yn unig fod mwy na lled ffordd haearn rhwng ochr yr ymadael ac ochr y cyrraedd. Pe buasai ein hen weinidog wedi bod yma, cawsem bregeth angladdol a chymhariaeth ynddi,-" Mynd a dod sydd ar ffordd y byd yma; galar un ochr i'r ffordd, a llawenydd yr ochr arall. Ond dyma ni heddyw mewn gorsaf nad oes ond ymadael ynddi. Ar ffyrdd y ddaear yma y mae gorsafoedd aml; ond, wedi gadael terminus y fynwent, nid erys neb cyn cyrraedd terminus gorffwys Duw neu anhun yr anuwiol. Y mae gwahaniaeth mawr rhwng llawer gorsaf wledig a gorsaf y brif-ddinas, ond beth yw hynny wrth y gwahaniaeth rhwng llawer hen fynwent wledig a'r terminus gogoneddus yr ochr draw." Er hynny ni fyddaf byth yn hoffi pregethwr sydd bob amser mewn tren neu mewn agerlong. "Dal di sylw, 'machgen i," ebai hen Gristion craff wrthyf unwaith, "mae pregethwr sal yn siwr o fynd i stemar cyn hanner i bregeth, ac odid fawr na fydd o mewn tren cyn prin gyrraedd y lan yn i