Tudalen:Tro i'r De.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ol." Yr wyf yn cofio Doctor mewn Diwinyddiaeth yn mynd i brofedigaeth unwaith wrth geisio mynd i dren. "'Roeddwn i'n teithio gyda'r rheilffordd ryw ddiwrnod yn ddiweddar," meddai, "ac mi roddais fy mhen allan o'r gerbydres mewn gorsaf neillduol, ac mi ofynnais i'r swyddog ym mha le yr oeddym. A dywedodd yntau mai yn Rhos Llannerch Rugog." "Y ffwl di-gywilydd," ebai rhyw bechadur yn f'ymyl, "pam y mae hwn yn mynd i'r pulpud i ddeyd i gelwydd, 'does yr un stesion o fewn dwy filldir i'r Rhos."

Pryd y down i Lanfair Muallt? Byddwn yno gyda hyn; dyma ni yn Builth Road, fel y gelwir gorsaf Llechryd yn awr. Dacw dyrfa o ymwelwyr Llandrindod yn disgwyl am eu tren, —pregethwyr a blaenoriaid,—gwyr tewion gwyneb-goch; mwnwyr llygaid dyfrllyd, a modrwyau yn eu clustiau; personiaid a phlu pysgota hyd eu hetiau; gwraig radlon yn siarad Cymraeg, a'i mherch yn ei hateb yn Saesneg, wrth ddarllen nofel a elwir yn "Her Only Love." Ond dyma gychwyn eto. Enw'r orsaf nesaf oedd Builth Wells. Esboniodd rhywun mai Llanfair Muallt oedd hwnnw. Dywedodd y gorsaf-feistr,—Cymro bywiog caredig,—fod gennym ychydig o ffordd i'w cherdded i'r dref, a'i bod yn tywallt y gwlaw. Wedi cyrraedd pen y bont hir sy'n croesi'r Wy o Sir Faesyfed i Sir Frycheiniog gwelem o'n blaen dref a'i hadeiladau'n glos yn eu gilydd, a'i hystrydoedd yn llawn o bobl yn bargeinio yn y gwlaw. O fysg pobl y ffair, daeth hen Faesyfwr gwalltwyn ar ei geffyl i'n cyfarfod, yn feddw gywilyddus. Erbyn cyrraedd y dref, yr oedd golwg fudr ar y gwestai, gan amled y bobl traed-fudron oedd yn