Tudalen:Tro i'r De.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

parhaus fyned i mewn, ac yn dod allan gan dynnu labedi eu cotiau ar draws eu cegau gwlybion. Un o'm gwendidau i ydyw awydd am le cysurus tawel i letya ynddo pan mewn lle dieithr; ond gwelwn mai lle oedd gwestai Llanfair Muallt i fechgyn lusgo eu cariadau iddynt i yfed cwrw oer, a lle i feddwon syfrdanu eu gilydd â'u dadwrdd Penderfynais adael Llanfair Muallt, a mynd i Landrindod neu Llanwrtyd. Ond cyn i mi droi'n ol dros y bont, daeth un o'm hen ddisgyblion i'm cyfarfod, gŵr digon brwdfrydig i wneyd i ddyn deimlo'n ddedwydd yn y gwlaw. Dywedodd fod y dref yn un o'r lleoedd tlysaf a mwyaf dymunol yng Nghymru, ond ar ddiwrnod ffair gwlawog,—a fod digon o letydai clyd ynddi, gan fod ei ffynhonnydd yn hoff gyrchfan miloedd o bobl bob blwyddyn. Cefais lety cysurus rhwng yr eglwys a'r bont, yn ymyl Capel Alpha, sef y capel honna fod y capel Methodistaidd cyntaf yng Nghymru.

Ym Muallt y cwympodd Llywelyn; ac y mae Ffynnon Llywelyn, y ffynnon y dywed traddodiad iddo yfed olaf o honi, o fewn rhyw ddwy filltir i dref Llanfair. Erbyn i mi gael ychydig o ymborth heb anghofio'r gwpanaid o de, yr oedd y gwlaw wedi darfod, a'r haul yn gwenu ar ddyffryn Gwy a'r mynyddoedd o bobtu Tybiwn na welswn wlad dlysach erioed pan yn cychwyn ar fy mhererindod tua Chwm Llywelyn; ac, er fy llawenydd, medrai bron bawb basiwn ar y ffordd siarad Cymraeg â mi. Troais i dŷ tafarn ar y ffordd, ty hen ffasiwn a mantell simddau fawr, i holi am y ffordd, a dywedai hen wraig y Prince Llywelyn fod yno groeso bob amser i Gymro'n siarad Cymraeg, er nad oedd arno eisieu glasied. Cyn hir dois at