Tudalen:Tro i'r De.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dy bychan unig ar ochr y ffordd, ar y llaw chwith. Cnociais wrth y rhagddor a daeth gwraig fechan o Saesnes i ddweyd fod croeso i mi fynd i'r ardd. Y mae'r ffynnon a Chwm Llywelyn i gyd ar dir fy nisgybl brwdfrydig, ond gwelais nad oedd eisieu i mi son am ei enw, yr oedd y wraig yn un garedig iawn, a siaradus. Oedd, yr oedd llawer o Gymry'n dod i weled y ffynnon, y mae rhai—oes y mae rhai,—'n cymeryd dyddordeb mawr yn y lle. Arweiniwyd fi drwy lidiart fechan i'r ardd, a danghoswyd i mi lwybr trofaog yn arwain i lawr at y ffynnon. Nant gauad lawn o goed cyll ydyw Cwm Llywelyn, yn rhedeg i lawr o ffordd Llangamarch i gyfeiriad dyffryn tlws yr Irfon. A ffynnon fechan yng ngwaelod gardd ydyw ffynnon Llywelyn, gyda gwaelod o graig a graean. Uwchben y ffynnon saif helygen wyllt, ac o'i hamgylch y mae llawer o flodau,—clychau'r gog ac anemoni'r coed yn eu hamser, llygaid y dydd a llysiau'r mel yn eu hamser hwythau. Ac y mae'r Saesnes wedi plannu llawer o flodau dieithr yno, blodau na wyddwn i mo'u henwau, fel pe i gyd-wylo â blodau Cymru am Lywelyn. Ar y geinen sy'n cysgodi'r cwm bychan, y mae derw, a chaeau agored i'w gweled rhwng eu bonau, a rhes o fryniau y tu hwnt i'r rhai hynny. Yn rhywle ar y caeau hyn y cwympodd Llywelyn, a chyda'i gwymp ef collodd Cymru er hanibyniaeth. Yr oedd awel wylofus yn anadlu dros y meusydd gweiriog. ac yn cario geiriau'r ffermwyr oedd yn mynd adref o'r ffair i'm clustiau. a'm meddyliau innan'n ol yn y flwyddyn 1282. Troais oddiwrth ffynnon Llywelyn i edrych ar y bryniau oedd yn gorwedd y naill wrth gefn y llall mor bell ag y medrai'r llygad weled.