Tudalen:Tro i'r De.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ar fy ffordd adref cyfarfyddais ugeiniau o wyr Buallt, pawb ar gefn ei geffyl, a phawb yn mynd nerth traed eu merlod bychain adre o'r ffair. Ni welais un meddw ymysg y lluoedd gwyr meirch; ac ymysg y gwŷr traed ni welais ond un ag arwyddion diod arno,—tolc yn ei het ac awydd sefyll ar ei sodlau. Hen wr oedd hwn hefyd, ac y mae lle i obeithio y bydd y genhedlaeth feddw wedi darfod o Gymru cyn hir.

Cefais orffwys tawel wedi dod yn ol, a thipyn o hanes y dref. Y Sabboth oedd drannoeth, a dywedodd y wraig nas gallwn gael pregeth Gymraeg os na chawn un yng Nghapel Alpha'r nos. "Rych chi yn y North yn fwy piwr i'ch iaith na ni." Ystafell isel hen ffasiwn oedd gennyf, lle hawdd breuddwydio am bethau fu. Ond, cyn amser huno, yr oedd gennyf ddigon o amser i fynd i edrych y castell. Dringais i fyny bryn, a gwelais lle y bu'r castell. Nid oes garreg o hono'n aros; nid oes yno ond trumau gleision yn unig. Nid ydyw heddyw ond lle i ymwelwyr rodianna. Hawdd gweled ei fod ar le manteisiol iawn. I'r gogledd y mae dyffryn Gwy, a mynyddoedd gleision i'w gweled dros dŵr ysgwâr eglwys Llanelwedd,—mynyddoedd Maesyfed Seisnig ofergoelus. Ond i'r de y mae dyffrynnoedd ffrwythlawn wrth draed Mynydd Epynt, a'u gwartheg, a'u hydau, heb ofn Norman na'i gastell.

Bum yn ymdroi peth hyd wastadedd glannau'r Wy. Cofiwn fod y Saturday Review wedi rhoddi beirniadaeth dyner ar dlysni'r golygfeydd hyn, a gallesid meddwl oddiwrth dôn y chwiliwr gwallau chwerw hwnnw fod gwaith Duw ymron wrth ei fodd. Tan fwa'r bont