Tudalen:Tro i'r De.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwelwn Gapel Alpha, ac adeiladau'r dref dan y bwâu ereill. Yn olaf peth eis am dro drwy fynwent yr eglwys. Ar garreg wen darllennais enw Eidalwr anesid yn Ombreglio, "wedi ei gyfiawnhau yn rhad trwy ei ras ef." Cofiwn mai uwch ben un o'r beddau hyn y bu John Williams, mab y Per Ganiedydd, yn darllen y gwasanaeth claddu'n feddw, mor feddw fel na fu ond y dim na syrthiodd i'r bedd,—er dirfawr boen ac edifeirwch iddo wedyn.

Bore Sul tawel hafaidd oedd bore drannoeth. Clywais fod capel Anibynwyr bychan ryw dair milltir i'r wlad, lle pregethid Cymraeg. Cerddais drwy'r dref, yr oedd yn ddistaw fel y bedd, ac nid oedd fawr o wybodaeth i'w gael ond am enwau'r siopwyr. Price ydyw'r enw mwyaf cyffredin o lawer, yna Powel a Davies, yna Morgan a Meredydd a Hamer a Morris; gwelais hefyd enwau Prosser, Gwynne, a llawer enw Seisnig. Cerddais ar hyd yr ystryd hir, o'r bont, ac yna gadewais y dref, a dringais i fyny bryn hyd hen ffordd Aberhonddu.

Ar ael y bryn, wrth lidiart, gwelwn bedwar o ddynion, tri yn rhai gweddol lonydd, a'r llall yn ysgwyd ei fraich fel pe yng nghanol hyawdledd mawr. Pan gyrhaeddais hwynt, trodd y siaradwr ataf fi. a dechreuodd fy holi'n galed yn Gymraeg. Sylwodd nad oedd fy nwylaw'n galed, a dywedodd nad oeddwn yn ennill fy nhamaid yn hen ddull y cwymp. Gŵr llawn ynni oedd, ac ni fuasai neb yn dychmygu ei fod yn 70 oed. Yr oedd yn Drefnydd selog, ac yn ei gosod hi ar ei enwad yn Llanfair yn bur drwm, gan ddangos pa fodd y rhoddasai ef hwy ar hwyl. Yna dechreuodd foli Tre Castell, magwrfa athrylith a'i fan genedigol yntau. Gŵr