Tudalen:Tro i'r De.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o haearn ydyw, anhyblyg, a di—drugaredd,—na, dacw ddeigryn yn ei lygad wrth adrodd hanes ei fab fu farw pan ar wneyd enw iddo ei hun fel meddyg. Yr oedd ei addysg wedi costio llawer o arian iddo, ond yr oedd clywed pobl yn dweyd iddo golli arian ar ei fachgen yn ei hala fe'n grac. "Son am arian o hyd,—a fawr o son am ened; hwy'n son am yr arian yn mynd yn ofer, a minne'n meddwl fod 'y machgen i ar y lan.' Yna dywedodd ei feddwl am addysg y dyddiau hyn. Yr oedd ei ferch wedi bod yn yr ysgol ym Mryste; yr oeddynt wedi ei dysgu lle'r oedd pob afon yn tarddu trwy'r byd yma benti gili. Ond am y wlad well y dysgid ni, adnode a hyme fydden ni'n ddysgu." Yr oedd yr hen frawd wedi holi'r tri gŵr o Forgannwg, rhai wedi dod i'r ffynhonnydd fel yntau, yn fanwl; ac yr oedd yn dangos un o honynt i mi fel pe buasai greadur mewn arddangosfa, oherwydd ei fod yn gefnder i Islwyn. Nid oedd yn llonydd un munud, rhaid fod ei ynni di—ddarfod wedi effeithio llawer ar ei ardal, a synnwn a fyddai'n cysgu, ynte a fyddai fel penhwyad, yn effro am byth. Trois fy nghefn arno, a phan edrychais yn ol o'r pellder, gwelwn yr hen Frycheiniwr yn pregethu a'i holl egni i'r tri gŵr llonydd o Forgannwg.

Ar ochr y mynydd gwelwn dai glân gwyngalchog, ac aml adfail. Uwch ben un ty to brwyn anghyfannedd gwelais dair coeden yn gwyro, caban un—nos ar fin y mynydd, a chae bychan glasach na'r mynydd o'i gwmpas a llwybr troellog yn mynd i fyny i'r mynydd oddiwrtho. Cofiwn fod coed yn gwyro, fel gwylwyr blinedig, uwchben llawer cartref tebyg yng Nghymru, tra y mae'r plant yn grwydriaid ar hyd y