Tudalen:Tro i'r De.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

byd, neu wedi suddo i dlodi a phechod ein trefydd mawrion. Pan gaiff Cymru addysg gelfyddydol, oni chynheuir tân ar yr hen aelwydydd hyn, oni ddaw'r hen gartrefi'n gartrefi celfyddydwyr? Tynnir cyfoeth o gerrig a phren; ac ni ddiystyrir gwenyn a ieir.

Dyma dro yn y ffordd, a chraig o'n blaenau, a phont haearn dros yr afon Dihonnw. Dyma dawelwch perffaith, heb un ty yn y golwg, na swn ond dwndwr yr afon; ni welaf ddim byw ond ambell wiwer ofnus yn croesi'n ysgafn trwy gyll y glyn. Yr oedd paent gwyn ar y bont, a fforddolion lawer wedi ysgrifennu rhyw ychydig o hanes eu bywyd ar hyd-ddo, Jack Penyryrfa bound for the south," Thomas Bevan passed by seven o'clock." "Tom yr Efail, Sir Fon,"—dyma hanes trigolion Cymru'n ymfudo i'r De. A rhyfedd iawn, dyma enw hen gydysgolor i minnau, yn ei law ei hun, ac ar ol yr enw,—"hard up on the road." Wedi dringo'r bryn gwelais fod rhywun wedi cyhoeddi athrod ar y fforddolion hyn mewn lle amlwg, "Beware of the dog."

Ond dyma ni yn Llanddewi'r Cwm. Deallais fod y capel hwnnw filldiroedd ymhellach, ac nad oeddwn ar y ffordd iawn. Nid oedd gwasanaeth yn yr eglwys tan y prydnawn, a gwelais na chawn gyd-addoli a neb y boreu hwnnw. Troais i'r fynwent, mynwent ar godiad tir mewn gwlad dlos lechweddog. Y mae'r plwy am yr Wy a Sir Faesyfed, ac o fewn rhyw ddau blwy i derfynau Lloegr, a deallais yn union fod y Gymraeg yn marw yma. Lle di—gynnwrf ydyw plwy Cymreig ar fin ymseisnigo, cyll yr Ysgol Sul ei lle, cyll y werin ei chywreinrwydd meddwl, gwneir gagendor rhyngddi a'r dosbarth