Tudalen:Tro i'r De.pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

darllengar. Yr oedd gwahaniaeth dirfawr rhwng yr amaethwyr welais yma a'r hen wr o Dre Castell; gwell gennyf fi garreg fedd hen Gymro nag ysgwrs Cymro seisnigedig. Cymreig iawn ydyw'r fynwent,—dyma fedd geneth ddeg oed o Nantyrarian, bedd hen felinydd o Ddolellinwydd, a bedd hen ferch o Gwttwshyrwain; dyma adnod Gymraeg, a dyma bennill ysgrifennwyd ar garreg ddarfodedig yn 1807,—

"Dyma Evan wedi tewi,
Da newyddion fu'n gyhoeddi
Dros i Dduw yn erbyn pechod,
A llawn rhyddhad yng ngwaed y Cymod."

Gadewais dŵr isel gwyngalchog creciog yr eglwys, a'r tawelwch dorrid gan swn y brain, a throais yn ol tua Llanfair. Ar y ffordd gwelais drol hir yn gorffwys, hysbyswyd fi mai "gambo" y gelwir hi, a deallais gyfeiriad atı mewn pregeth glywais wr ieuanc o'r De'n draddodi wrth gasglu at ei goleg,—

"Mae hen gambo'r iachawdwriaeth yn cywain eneidiau o hyd glannau'r afon i ysguboriau'r Duwdod."

Yr oeddwn yn brydlon yng nghapel Alpha amser dechreu, a chawsom bregeth ddwy—iaith rymus a gafaelgar iawn gan y gweinidog. Yn y seiat ar ol, siaradodd llawer o frodyr o Forgannwg, Llanfair Muallt a'i ffynhonnau yw eu hoff gyrchle, yn Gymraeg. Cefais wahoddiad cynnes i wlad y gweithydd ganddynt, ac yr wyf yn meddwl mynd ryw dro. Wedi ymgom a'r