Tudalen:Tro i'r De.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gweinidog, cefais orffwys breuddwydiol. Y nos honno, bum yn ail grwydro bryniau Buallt mewn breuddwyd, gan chwilio am fedd Llywelyn. A gwelais gof-golofn ardderchog,-arwydd serch cenedl wedi deffro,-i ddweyd wrth oesau ddel am fywyd ein Llyw Olaf. Pa bryd, tybed, y caf weld hyn pan ar ddi-hun?