Tudalen:Tro i'r De.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD

Ysgrifennwyd y penodau hyn ar wahanol adegau, lawer blwyddyn yn ol.

Darllennais hwy ar ddamwain drachefn, a chodasant hiraeth arnaf. Cychwynnaf yng Nghaer, y diwrnod y penderfynwyd mynd ymlaen yn ddi-ildio i gael Prifysgol i Gymru. Yr oedd Cadwaladr Davies yno, a hen Americanwr bach digri yn ein difyrru er cymaint ein pryder; ac yr oedd M. D. Jones yn pregethu y Sul.

Daw fy helyntion yn Llanidloes i'm cof. Aeth fy hanes trwstan i glustiau un o'r gwyr tyneraf a mwyaf boneddigaidd fu'n gwasanaethu crefydd a llenyddiaeth Cymru; a gwaith ei ddireidi ef yw'r ymgom ar gân. Y diweddar Barch. Owen Jones, B.A., gynt o'r Fron Gain, yna o Gapel Chatham. ac yna o Lansantffraid ym Mechain, oedd hwnnw. Penderfynais beidio desgrifio Hafrenydd yr adeg honno; ond y mae yr hen lanc ffwdanus anwyl eto'n fyw iawn yn fy nghof.

Y mae yr hen fachgen dawnus fu'n llefaru wrthyf ar fryniau Muallt, mi glywais, wedi newid byd; clywais hefyd fod cofgolofn yng Ngwm Llywelyn.

Torf fawr Eisteddfod Abertawe yn 1891,—y mae llawer ohonynt na chaf weled mwy. Y calon-gynnes Athan Fardd, Clwydfardd batriarchaidd, Hwfa Mon a'i lais môr a'i galon gynnes, gwên