Gwirwyd y dudalen hon
heulog Joseph Parry, ynni diddarfod J. Coke Fowler. a Lewis Morris yntau,—gymaint sydd wedi gadael llwyfan yr Eisteddfod erbyn hyn.
O'r tren yn unig y gwelais Sir Benfro, a hwnnw'n myn'd hyd reiliau newydd. Ond gwlad Pwyll, pendefig Dyfed, oedd i mi. A dyffryn Teifi, pwy fedr anghofio ei swynion a'i bobl?
Tybed a yrr y penodau didrefn hyn rywun arall i geisio dedwyddwch drwy weled gwahanol rannau ei wlad? I mi, y mae pob rhan o Gymru yn dlos ac yn gysegredig.
OWEN EDWARDS
