Tudalen:Tro i'r De.pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Dyn a garo grwth a thelyn,
Sain cynghanedd, cân, ac englyn,
A gâr y pethau mwyaf mwynion
Sy'n y nef ym mhlith angylion."
—HEN BENNILL.

Bore oer cymylog, o fore'r ail ddydd ar bymtheg o Awst, oedd bore Llun wythnos Eisteddfod 1891. Nid oedd arnom lai nag anwyd wrth sefyll ar orsaf Bangor, ymysg gwyr Mon ac Arfon, gan ddisgwyl am y tren oedd i redeg trwy'r dydd, ar hyd Cymru, i Abertawe Yr oeddym yn ddistaw, gan edrych yn bryderus ar yr awyr lwythog fygythiol oedd yn taflu cysgodion duon ar Ynys Mon a phenrhynoedd Arfon. Ond toc aeth rhywbeth tebyg i drydan drwy'r dyrfa, rhywbeth a'n cynhesai ac a wnai i ni dynnu'n llygaid oddiar yr awyr ddu. Wedi gweled Mary Davies, brenhines cân Cymru, yn ein mysg yr oeddym.

Gyda fod y tren wedi cychwyn dechreuasom ysgwrsio, oherwydd i'r Eisteddfod yr oeddym oll yn cyrchu, ac nid oedd yn ein cerbyd ond un lle gwag. Ysgolfeistr, bardd, traethodwr, beirniad, cantores, geneth fach yn ofni fod ei thelyn yn cael cam,—yr oeddym yn gwmni digon difyr. Cyn hir aethom tan furiau Castell Conwy, ac yr oedd golwg oer a phruddaidd ar yr