Tudalen:Tro i'r De.pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

afon sydd mor ogoneddus o brydferth dan wenau'r haul. Yn Llandudno yr oedd llawer tren, a phennau aneirif, pob un yn wên o glust i glust, yn y drysau a'r ffenestri. Philistiaid oeddynt, Saeson Lerpwl, yn cael mwynhad wrth fodd eu calonnau trwy edrych ar dri gard yn ceisio darbwyllo llo,—llo oedd eto heb ddysgu symud ei bedwar troed ar unwaith,—i gerdded o'r naill ben i'r platfform i'r llall. Pan ail—gychwynnodd y tren, gwelsom fod un o'r rhai hyn, hen Philistiad tal trwyngoch penwyn, wedi gosod ei hun yn gysurus yn y sedd wag. Gormod o waith oedd ei ddarbwyllo i gau ei geg, gwaith anhawddach na hynny oedd ei gael i draethu ei ddoethineb ar unrhyw fater llenyddol. Tra'r oedd ein tren yn prysuro ar draws godreu Dyffryn Clwyd, ac yn chwyrnellu trwy bentrefi Fflint, ni fynnai y Sais son am Forfa Rhuddlan nac am abaty Basing, eithr yn hytrach mynnai siarad am y gwahanol fathau o gwrw lyncasai yn ardaloedd mynyedig Meirionnydd. Er i mi ei hysbysu na wyddwn wahaniaeth rhwng cwrw a dwfr llyn hwyaid, yr oeddym wedi cyrraedd Caer cyn i mi gael ymgom a'r enethig am ei thelyn.

Yng Nghaer ac yn yr Amwythig daeth torfeydd newyddion, personiaid du eu gwisg a llyfn eu gwyneb, pregethwyr Anibynnol ffraeth bywiog, pregethwyr Methodistaidd gwelw distaw, beirdd a cherddorion pwysig, siopwyr trwsiadus, ffermwyr rhadlon, y chwarelwr a'i gariad, y glowr a'i gariad yntau, Cymry'r Gogledd wrth eu tylwythau i gyd. O fardd i fardd gwibiai Eifionnydd, nid y wlad, ond y gŵr a elwir felly, i sugno mêl eisteddfodol i'r Genhinen. Cynghaneddion yn berwi ydyw mater enaid