Tudalen:Tro i'r De.pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hwn,—rhyw fath o Genhinen Eisteddfodol fyw ydyw; wrth weled Cardiff ar dren oedd yn melltennu heibio," I Gaer Dydd i gordeddu meddai; gwelwch gynghaneddion yn berwi yn ei lygaid, ac y mae ei dafod yn diferu o honynt, feddyliwn i, ddydd a nos. Methasom fyned i'r un cerbyd a'r beirdd, cawsom ein hunain gyda Saeson ar eu ffordd i Ddinbych y Pysgod, rhai na fedrent siarad yr un gair ond Saesneg, golygydd papur newydd yn cynnyg "ail argraffiad o ffrwythau i eneth swil y gwelais ei hagrach, dynes ganol oed a gwallt gwyn a llygaid brithion oer di-drugaredd a llais cras wnai i mi ymgreinio mewn poen wrth orfod gwrando arno. Yr oedd yno borthmon, a gwraig wylofus ar ei ffordd adref o gladdu rhywun, a pherson yn meddu gwyneb bachgen a'r het silc fwyaf welais erioed yn mynd i Landrindod am ei iechyd, nid oedd golwg eisteddfodol iawn arnom. Yr oedd y tren yn orlawn yn gadael yr Amwythig: ac ym mha le y rhoddwyd y Cymry gwasgaredig a ddisgwyliai am danom yng nghyffordd Craven Arms, nis gwn i. Pan gyrhaeddasom gyffiniau bryniog Maesyfed yr oedd y gwlaw oer yn disgyn yn gawodydd niwliog ar y gwair. Daethom i Knighton, tref dan gysgod craig, ac yna trwy wlad o lechweddau a chymoedd a ffriddoedd, ond yr oedd y tren yn myned yn rhy gyflym i ni fedru darllen enw pob gorsaf yr aem drwyddi. Cyn dod i Landrindod aroswyd i hel ticedi; yr oedd gan y person rywfaint i dalu, ac wrth orfod aros nes y cai ei newid, collodd y gard ei dymer a dywedodd eiriau nad gweddus eu hysgrifennu. He says that he is not going to stay here all day," esboniai'r golygydd i'r wraig a'r llais hogi llif, "for this