Tudalen:Tro i'r De.pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gentleman's change, which he called a blessed sixpence."

Wedi gadael gorsaf Llandrindod, a llu o bobl ynddi na chymerent lawer am lercian mewn un orsaf arall, daethom i wlad o rosydd gwlybion. Toc gadawsom Lanfair Muallt ar y chwith, ac ar y dde gwelem Gwm Llywelyn yn ein hymyl; Llangamarch, cartref John Penry ar ochr mynydd draw, cymoedd mynyddig Llanwrtyd, tynel hir, ac wedi dod o hono yr oeddym yn un o'r golygfeydd mynyddig mwyaf ardderchog yng Nghymru. Crawcwellt, yr aber yn ei babandod yn dechre sisial siarad, niwl gwyn y mynydd, defaid bychain chwim, unigedd perffaith, peth rhyfedd oedd bod mewn tren ac mewn golygfa fel hon ar yr un pryd. Toc ymagorodd dyffryn Tywi o'n blaenau, a chofiem wrth lithro drwy Lanymddyfri fod yr Hen Ficer a Williams Pant y Celyn yn huno yno. Erbyn cyrraedd Llandeilo yr oedd y gwlaw'n ymdywallt, ac arwyddion eglur fod tymhestl yn dod. Yr oedd bwa hir pont Llandeilo fel pe'n crynnu rhag ofn yr ystorm; a chastell Dinefwr draw yn gwisgo gwg herfeiddiol yr hen amseroedd. Newidiasom ein cerbyd, a chawsom ein hunain gyda Chymry o'r Alban ar eu ffordd. fel nyninnau, i'r Eisteddfod. Wrth i ni redeg i lawr dyffryn Llwchwr at y môr ac Abertawe yr oedd y dymhestl wedi ymdorri. Er mai canol Awst oedd, cauasom y ffenestri'n dyn, ofnem weld y gwynt yn dinistrio gorsaf Tir y Dail, ac ni welsom wlaw erioed fel y gwlaw a bistylliai ar weithfeydd a glowyr Pontardulais. Beth am yr Eisteddfod yfory? "Y mae un cysur yn unig." cwynfannai un. "'does dim posib i'r tywydd fynd yn waeth." Tywalltai'r gwlaw pan redai ein tren, dros awr