Tudalen:Tro i'r De.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar ol ei amser, hyd gyffiniau Gwyr; ond torrodd yr hin am ennyd pan ddaethom i olwg y môr. A hyfryd ryfeddol oedd cael gadael ein cerbyd clos, ac anadlu'r awel iach ddoi dros Fau Abertawe,—a pha le prydferthach welir ar draethellau ein moroedd na'r bau o orsaf Bau Abertawe? Wedi blinder ein taith hir adfywiwyd ni wrth weled eangderoedd y môr, a'r goleu, rhywbeth tebyg i lawenydd, draw ar ei orwel. Ond buan y dechreuodd yr awyr ail-dduo, a phrysurasom ninnau i'n llety ym Mryn y Môr, gan daflu golwg wrth basio ar y babell enfawr wleb oedd fel pe'n rhynnu yn y gwynt didrugaredd a'r gwlaw. Y peth olaf glywais cyn cysgu oedd rhu bygythiol y gwynt, a breuddwydiais fod y babell wedi ei chwalu'n ddarnau mân dros holl fro Morgannwg.

Pan edrychais gyntaf drwy'm ffenestr bore drannoeth gwelwn, er mawr lawenydd i mi, fore heulog braf yn gwenu arnaf. Ni fedrais fynd i'r Orsedd, eis i edrych y babell cyn i'r bobl ddod. Gwelwn y babell gron enfawr dan ei baneri, yn prysur sychu ar ol y gwlaw. Saif yn y parc prydferth sydd ar lan y Bau; o'i blaen yr oedd y môr, ac yn hanner cylch y tu ol iddi yr oedd Abertawe ar lethrau bryn. Yr oedd yr olygfa'n brydferth a mawreddog, a hawdd y gallwn fenthyca rhyw ddesgrifiad o'r Mabinogion i'w darlunio hi.

Prin yr oeddwn wedi rhoi tro o gwmpas y babell a holi pwyllgorwyr ffwdanus pan glywn sain Gorymdaith Gwyr Harlech yn y pellder— yr oedd seindorf filwrol yn arwain y beirdd o'r Orsedd. Ond nid oedd y babell yn hollol barod, —yr oedd y to wedi dod i lawr yn yr ystorm,— a swn morthwylion glywai'r beirdd, a swn morwyr