Tudalen:Tro i'r De.pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn tynnu yn y rhaffau i sicrhau'r to. Cyn unarddeg, er hynny, yr oedd cor yr Eisteddfod yn canu "Maes Garmon"; a minnau'n edrych o gwmpas' y babell oddimewn. Yr oedd yn fwy o lawer na phabell Bangor,—medrai pymtheng mil o bobl eistedd yn gysurus ynddi; ond, gan nad oedd ar godiad tir, nid oedd mor hawdd i bawb weled a gwrando ynddi. O'i hamgylch, gyda'i hochrau pren, rhedai rhes o feinciau'n codi'n raddol o'i llawr hyd ei bargod, ac o'r rhain gwelid y gwaelod eang, a'r llwyfan dan ei nen o goed. Uwchben yr oedd to o lian bras trwm yn crogi wrth ddau bolyn uchel, nofiai fel cwmwl i gysgodi'r babell, ond nid oedd yn llawn ddigon i'w ymylon gyrraedd ochrau'r babell. Tlawd iawn o arwyddeiriau oedd y colofnau a'r parwydydd,—pa ham na lenwasid hwy, fel y gwneir yng ngwyliau pob cenedl arall, ag enwau ein prif leoedd? Beth lonasai fwy ar galon un o Gaer Dydd, o Aberystwyth, neu o Gaernarfon, na gweled enw ei dref ym mhabell Abertawe? Peth Philistaidd oedd rhoddi "Gochelwch Ladron" ymysg yr hen arwyddeiriau, ond esboniodd Cynonfardd mai llen ladron a lladron cariadau a feddylid. Wrth ben y llwyfan yr oedd Môr o gan yw Cymru i gyd ac o'i hamgylch yr oedd enwau Ceiriog, Mynyddog, a'r beirdd a'r llenorion ydym newydd golli. Nid oes dim wna fwy i uno Cymru na galaru am yr un rhai; wrth weled yr enwau o'n blaen cofiem am rai fu'n llafurio i godi ein gwlad, Brinley Richards, Tanymarian, Glan Llyfnwy, Gwilym Gwent, Nathan Dyfed, Annie Williams, Gweirydd ab Rhys, Glanffrwd, Kilsby, William Evans Tonyrefail, Vulcan, Thomas Rees, Owen Thomas, ac ereill.