Tudalen:Tro i'r De.pdf/87

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pwy wyr enwau pwy fydd o'n blaenau, i alaru am eu colli, yn Eisteddfod y Rhyl?

Ond dacw Syr J. T. D. Llewelyn, yng ngwisgoedd gwychion Maer Abertawe, yn cynnyg ein hannerch. Y mae ei lais yn dreiddgar ac y mae yn dweyd pethau dyddorol am eisteddfodau'r hen oesoedd. Ond, pa mor wladgarol bynnag y medr fod y mae mewn lle perygl i siarad gormod; wrth edrych yn ol gwelwn bennau gwyr Morgannwg, gwyr byrbwyll ac anibynnol, a chyda fod yr ugain munud ar ben, dyna lais o'r bellder, fel adlais clir y maer, yn dweyd ei bod yn bryd mynd at rywbeth arall.

Canodd Maldwyn Humphreys "O na byddai'n haf o hyd," yr oedd heulwen arnom y funud honno, a gweddiem am gael haf trwy wythnos yr Eisteddfod. beth bynnag am y misoedd sydd i ddod. Wedi'r gân daeth y beirdd a'u henglynion, Iago Tegeingl walltwyn, Eifionnydd lygaid gwibiog, Creidiol fwynlais, a Chlwydfardd batriarchaidd. Cafodd yr hen Eisteddfodwr dderbyniad croesawgar, gwyddid ei fod wedi gadael ei ddeng mlwydd a phedwar ugain, teimlid grym ei englynion i'r Eisteddfod pan ddywedai mai "cadarn yw hi, a'i henaid heb ddihoeni," a tharawiadol iawn, wrth weled gwynned ei wallt, oedd clywed ei lais llawn treiddgar yn hwylus floeddio nad oes arni hi "na henaint na phenwynni."

Yna heliwyd y beirdd ymaith, a chymerodd gwyr cochion y gatrawd Gymreig eu lle, i chware Llwyn Onn a Hob y Deri, Ar Hyd y Nos a Gorymdaith Gwyr Morgannwg. Ar eu hol hwythau daeth cantorion, Dr. Parry a John Thomas i feirniadu'r unawdwyr bariton. Yr oedd heulwen gynnes yn chware arnom drwy