Tudalen:Tro i'r De.pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

do'r babell erbyn hyn, yr oedd meinciau'r cefn yn prysur lenwi, yr oedd pawb yn ddifyr, ac yn teimlo fod yr hwyl Eisteddfodol wedi dod. Cafwyd beirniadaeth ferr ar y cyfieithiadau, beirniadaeth hir gan Hwfa Mon ar y can englynwr a deugain, gormod dair gwaith o ganu piano, beirniadaethau byrion ar gân a chelf a thraethawd, "Hobed o Hilion yn felus gan Miss Adela Bona, yr oedd Cynonfardd yn hwylio pethau ymlaen yn ddeheuig iawn. Yn ystod y gystadleuaeth seindyrf a'r triawdau yr oeddym yn ddedwydd, yn gynnes, ac yn edrych ymlaen gystadleuaeth gorawl,—"Goed yr Hydref " at a "Stone him to death." Ac ebai bardd wrthyf, "Nefoedd o le ydyw eisteddfod pan bo pethau'n mynd fel hyn; disgwyliwch, mae'r babell yn llawn."

Gyda hynny gwanhaodd yr heulwen, a marwwodd. Taflodd cymylau duon eu cysgodau arnom, a chlywem y gwynt yn codi. Erbyn tua thri o'r gloch, cyn i'r corau fod yn barod, deallasom mai gwynt tymhestl oedd. Dechreuodd to'r babell ysgwyd, gwelem hi rhyngom a'r awyr fygythiol fel llong mewn ystorm. Daliai'r bobl. eu hanadl, gwelwn y miloedd yn eistedd fel delwau duon, ac yr oedd duwch yr ystorm wedi taflu rhyw gysgod prudd ar bob gwyneb. Taran, filach mellten, a dyna ni yn y diluw a'r ystorm. Ni fedrid clywed dim gan swn y cenllif gwlaw trystfawr, a buan y gwaghawyd canol y babell gan bobl yn wlybion at eu crwyn. Gwynt rhyferthwy, dacw'r rhafiau'n gollwng, y prennau'n torri, a tho'r babell yn dod i lawr. Graddol iawn y disgynnodd, fel llong yn suddo, ond gwelais lawer yn ymlafurio ymysg y rhaffau a'r prennau ddisgynasai arnynt, ond yr oedd rhyw swyn