Tudalen:Tro i'r De.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i mi yng nghwymp araf y babell, ac am ennyd nis gallaswn ddianc.

Ni welais dorf erioed yn ymddwyn yn fwy pwyllog a doeth. Gwahoddodd Cynonfardd ni ymlaen, a thawelodd ni. Gofynnodd i ni eistedd i lawr, ac eisteddasom, er fod llyn bychan o ddwfr ar waelod pob cader. Nid oeddwn am anufuddhau i'r arweinydd; ond gallaf dy sicrhau, ddarllennydd mwyn, na fydd fawr o frwdfrydedd yn neb wedi iddo eistedd mewn llyn o ddwfr oer.

Pan droais o'r babell i'r gwlaw tymhestlog, yr oedd y bobl yn gwasgu o gwmpas y llwyfan i wrando ar y corau'n canu. Wedi'r cystadlu hwn, yr oedd cystadlu canu telyn, a synnwn beth ddaeth o delyn yr eneth fach o'r Borthaethwy yn yr ystorm.

Yn yr Albert Hall y cynhaliwyd y cyngherdd yr hwyr; ond gorfod i mi droi oddiwrth y drysau, gyda lluoedd ereill, oherwydd nad oedd yno le. A phan ddaeth y nos, methwn gysgu gan feddwl am y wraig laddesid yn y babell, yr oedd yr Eisteddfod, fel hen wyl dderwyddol, wedi dechre gydag aberthu bywyd. Ofnwn y byddai'r babell mor unig a mynwent drannoeth, heb neb ond y beirdd, a hwythau'n galaru'n ddistaw uwchben bedd anamserol yr Eisteddfod na fu gwell rhagolygon erioed na'i rhagolygon hi.

Y nos honno bu rhyferthwy mawr; a phan aeth hi yn ddydd gallesid meddwl oddiwrth y gwlaw dirfawr fod diluw, ail i ddiluw'r hen No, yn dod. Yn blygeiniol prysurais tua'r babell. Yr oedd yno o hyd, ond heb godi ei phen. Yr oedd y pare yn byllau lleidiog drosto a phwyllgorwyr prudd yn ceisio cyrraedd y babell yn