Tudalen:Tro i'r De.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

droedsych, ac yn ceisio'n ofer. Ni welais obaith yn unlle ond yn nhymer hyderus yr ysgrifennydd di—flino, ac mewn ambell heulwen wan oreurai odrau'r cymylau duon. Troais yn ddi—galon tua llyfrgell y dref i ddarllen hanes hen Eisteddfodau, pan gyfarfyddai'r beirdd yn ystafell oreu rhyw hen westy clyd, heb ofni rhuthrwynt na gwlaw. Ar fy ffordd cyfarfyddais Iwan Jenkyn, yn anfoddog wedi colli'r Cymrodorion, ac Athan Fardd yn hapus rhwng ei gyfeillion Dyfed a Dafydd Morgannwg. "Fachgen," ebai Athan, "ple'r ych chwi'n mynd, ych chwi ddim yn troi'ch cefn ar yr Eisteddfod?" Tybiwn na fuasai Eisteddfod, a chollais fy hun am rai oriau yng nghywyddau Tudur Aled a Iolo Goch.

Tua dau o'r gloch cychwynnais tua'r Eisteddfod, yr oedd cawod wlaw a heulwen boeth yn ymlid eu gilydd dros Abertawe, gan ddyfalu a fyddai yno un. Pan ddois i olwg y babell gwelwn ei bod a'i phen i fyny, a gofynnais i heddgeidwad safai gerllaw, Frawd, a oes rhywun yn y babell acw?" (Rhywun!" atebai, "oes; y mae ugain mil o bobl ynddi, a dacw i chwi filoedd ereill wrth y pyrth yn ymryson am fynd i mewn." Nid anghofiaf byth yr olygfa welais. Yr oedd y babell enfawr wedi ei gorlenwi, nid oedd na llawr na mainc yn y golwg, dim ond môr aflonydd o wynebau ceg—agored,—y cegau'n crochfloeddio ar breswylwyr y llwyfan y dylent gilio, er mwyn i gor mawr Caernarfon gael lle. Deallais yn eglur ein bod ar fin y brif gystadleuaeth gorawl. Yr oedd yn anodd iawn i gor Caernarfon ddechre canu, yr oedd yn anodd clirio'r llwyfan, dywedid fod amryw o enethod y cor wedi syrthio mewn llewyg wrth geisio