Tudalen:Tro i'r De.pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymwthio i'w lleoedd, yn sicr yr oedd y cor hwn dan anfanteision mawr. Ac yr oedd amynedd y dorf aruthrol yn fyr. Nid oes neb yng Nghymru ond Mabon fedrasai gadw cwrs ar dorf fel hon, ac ofnwn na fedrai yntau lwyddo y diwrnod hwnnw. Yr oedd rhai'n ymgynhyrfu o angenrhaid, gwelais lwybr o gynhyrfiad, fel y cynnwrf welais ar lyn uwch ben ci fyddai'n nofio; glowr o'r Rhondda oedd "shwst a mwgi," ac yn ceisio cyrraedd un o'r drysau. Yr oedd rhai'n ymgynhyrfu o ofn,—clywn drwst meinciau'n dryllio, gan ollwng y rhai eisteddai arnynt yn bentwr ar y ddaear wleb; ac nid oedd yr uchaf yn y pentwr, y mae lle i ofni, yn sylweddoli beth oedd cyflwr yr isaf. Yr oedd ereill mewn dadl frwd, pobl na chyfarfyddasant erioed o'r blaen, ac na chyfarfyddant byth eto. Yn fy nghyffiniau i yr oedd dadl boeth rhwng Gogleddwr a Deheuwr parthed gwir Gymraeg. "Iaith y De yw iaith y Beibl," ebe'r Deheuwr, ac os na fedrwch chi ddarllen y Beibl, dir, ble'r ych chi? Jowl yriod," meddai ym mhoethder ei sel ond chwarddodd y Gwyneddwr wrth glywed y fath amddiffyniad i iaith y Beibl, ac aeth y ddau'n ffrindiau mawr. Ond mewn rhannau ereill o'r babell, yr oedd aml i ddadl wedi troi'n frwydr; gwelais amryw frwydrau ffyn yn y meinciau cefn. a'r ergydion i gyd yn disgyn ar hetiau rhai nad oedd ganddynt ran na chyfran yn ddadl. Ni ddiangais yn hollol ddianaf fy hun, er fy mod yn agos i'r drws, yn ddistaw, ac yn barod i gytuno a phawb ym mhob peth; diolchwn, wrth glywed yr eirin a'r cnau a'r afalau yn rybedio oddiar fy het, mai hanner coron yn unig oedd wedi gostio i mi. Yr oedd pethau'n mynd yn waeth waeth, y gynulleidfa'n