Tudalen:Tro i'r De.pdf/92

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ferw drwyddi, a raid i Fabon sefyll i edrych arnynt heb fwy o obaith eu tawelu na phe'r edrychasai ar ferw tonnau'r môr? Na; gyda holl nerth ei lais y mae'n dechre canu "Hen Wlad fy Nhadau.' Darfyddodd pob ymgecraeth, distawodd pob digrifwch anheilwng, llonyddodd y berw, a dyna ugain mil o leisiau, mewn undeb gogoneddus, yn cydganu alaw sydd erbyn hyn, er ei saled, yn un o alawon cenedlaethol Cymru.

Ac oni ofnwn mai fel y dyrfa afreolus honno y bydd Cymru i gyd, yn llawn o ymgecraeth ffol ac ymbleidio chwerw, o grochfloeddio ffug wladgarwch dall a chyhoeddi barn anghyfiawn, o lefaru heb wybodaeth ac o weithredu heb ddoethineb? A beth a wneir a'r ynni effro anorchfygol hwn? Na cheisier ei fygwth, ni fuasai waeth i Fabon fygwth eisteddfodwyr Abertawe. Rhodder ffurf iddo a chroesawer ef. Trodd croch-waeddi a nadau tyrfa aflonydd yn fiwsig ardderchog pan ddechreuodd Mabon eu harwain. Try cynnwri y Deffroad yn ymdrech wir dros Gymru; defnyddir ei nerth i gyfoethogi hanes a meddwl ein gwlad, os cawn ein harwain yn iawn. Na feied ein harweinwyr ni am ein brwdfrydedd, eu lle hwy yw gofalu am waith iddo; os methwn a chael pen llwybr doethineb, cofied ein harweinyddion mai arnynt hwy bydd y bai, ac nid arnom ni. Rhaid defnyddio a sancteiddio'r Deffroad; ac os na wneir hynny, nis gellir dirnad pa ddrwg a wna. Mor fuan ag y rhoddwyd gwaith i dyrfa aflonydd yr Eisteddfod, peidiasant a'u cyffro, ac ni welwyd cystal trefn ar gynulleidfa tan y fath amgylchiadau erioed.

Yn ystod y distawrwydd ddilynodd y canu rhyfedd hwn, cododd cor Caernarfon ar ei draed,