Tudalen:Tro i'r De.pdf/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a dyna'r ugeinmil cantorion yn troi'n ugeinmil o feirniaid astud. A chyda hynny hefyd daeth cysgodau cymylau drosom, a dechreuodd to'r babell ysgwyd ac ocheneidio wrth ein pennau. Pan oedd y cor a'r gynulleidfa newydd ddod i gydymdeimlad a'u gilydd, disgynnodd y gwlaw yn genllif trystfawr, ac yr oedd y cor mawr ymron yn anghlywadwy. Dechreuodd llian y to ddiferu hefyd, dyferion bras yn taro at groen bob ergyd, a thybiwn fod preswylwyr y meinciau blaenaf mor wlybion ag y medrai dwfr eu gwneyd. Yn ystod y canu a'r dymhestl gwelid pobl wlybion yn cerdded hyd y llwyfan rhwng y gynulleidfa a'r cor. Yr oedd y bobl yn rhy astud i holi ai'r Tywysog Henry o Fattenberg a'i gwmni oedd yno; nid oeddynt yn malio mwy mewn tywysog nag a faliai'r dymhestl,—

"What care these roarers for the name of king?"

Yr oedd dyferynau mawrion oer yn rhedeg i lawr rhwng fy nghrys a'm cefn, a gadewais y babell newydd i gor Caernarfon orffen canu. Pan oeddwn ar ganol ymlwybro trwy'r mwd clywn floedd uchel yn y babell,—croesaw, debygwn, i un o gorau'r De. Eis at un o'r drysau, a gwelwn wynebau duon gwyr byrion y Rhondda lond y llwyfan yn dechre canu. Nid oedd bosibl mynd i mewn yn ol, ac ni chlywais y corau ereill. Ymhen oriau wedyn gwelais y bobl yn dylifo allan, pawb yn datgan ei farn am y canu a'r feirniadaeth. Cyfarfyddais Jenkins yn prysuro ymaith wedi cythlwng mor hir, deallodd beth ddymunwn wybod,— Llanelli'n gyntaf, Caernarfon yn ail, cystadleuaeth ardderchog."