Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XIV.

DROS Y MYNYDDOEDD DUON.

TUA chwech o'r gloch bore drannoeth yr oedd o wastadeddau a bryniau, lle gwelem wragedd yn gwylio gwartheg ym mhob cae, er boreued oedd. Yr oedd afonig fechan, weddol lawn, yn rhedeg gydag ochr y ffordd haearn; ac yr oedd murmur hon, ynghyd â su awel y bore wrth ysgwyd y grug a'r banad), yn ein gwneud yn ddedwydd iawn, er nad oeddym wedi cael brecwest.

O Forlaix i Landerneau, gallem feddwl mai trwy Gymru yr oeddym yn teithio, cymoedd mynyddig coediog, wynebau prydferth deallgar, ambell i hen eglwys lwyd ei gwedd, cestyll mewn mantell o eiddew. Pan ofynnem i'n cyd deithwyr am enwau'r lleoedd basiem, dyma gaem — Corlan, Penwern, Pont Glas, Caerdu, Mês Pant, Ty Mawn, Coed Mawr, Bodilis, a'r cyffelyb, enwau yr oeddym wedi eu clywed oll mewn gwlad arall. Cyn cyrraedd Landivisiau yr oeddym yn troelli drwy wlad dlos odiaeth, gwlad lle mae pobl weithgar yn byw mewn tai newydd glân. Yr oedd dillad y gweithwyr oll yr un fath, — trowsus rips llac, crys gwyn, esgidiau pren, a het coryn isel cantal maur a ruban du llaes yn disgyn i lawr y tu ol.

Yr oedd yr haul wedi hen sychu'r gwlith oddiar goron brenhines y weirglawdd cyn i ni ddod i olwg tyrau dwy eglwys Landerneau. Yma yr oedd gennym ddwyawr i aros. Yr oedd ein tren yn mynd ymlaen i Frest, lle Ffrengig llawn o filwyr a rhyfeddodau rhyfel, lle nad oedd arnom ni eisiau ei weled. Arosasom am y tren sy'n rhedeg hyd y ffordd droella hyd fronnau'r Mynyddoedd Duon tua'r de.