Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dowlas Llydaw yn dlws iawn, — bugeilio'r gwenith gwyn yr oedd rhai o'r bobl, a rhai'n eistedd ar lan afonig dryloyw i ochel y gwres. Gwelais Ddowlais Cymru hefyd; ac wrth wrando ar ru ei beiriannau ac edrych ar ei gawodydd tân a llwch, tybiais i mi glywed llais yn cyhoeddi,—

Learn that henceforth thy song shall be,
Not mountains capped with snow,
Nor forests sounding like the sea,
Nor rivers flowing ceaselessly,
Where the woodland bend to see
The bending heavens below.

“There is a forest where the din
Of iron branches sounds!
A mighty river roars between,
And whosoever looks therein
Sees the heavens all black with sin,—
Sees not its depths nor bounds."

Byddaf yn ofni'n aml yr effeithia llwyddiant masnachol Cymru arni er drwg, yr hegrir ei bywyd moesol fel yr hegrir ei daear gan byllau glo a chwarelydd. Y mae'r wlad yn prysur gyfoethogi, ein gweddi fo na chyll ei chyfoeth pennaf, — ei chariad at grefydd a'i hymdeimlad o'r ysbrydol, — wrth gynilo arian ac aur, ac wrth weithio haearn a dur. Mil gwell gan i'r Llydawr,— er na fedd ond cae tatws ar ei elw, yr hwn fedr addoli yn ei eglwys a chanu caneuon ei wlad ar ei aelwyd dlawd, na'r Cymro sydd wedi crebychu ei enaid wrth wneud arian, ac yn dirmygu ei hen iaith pan wedi cael palas i fyw ynddo.

Y mae mynachlog Daoulas, y fynachlog adeiladodd Guiomarch yn y ddeuddegfed ganrif, yn adfeilion. Ymysg yr adfeilion, chwery y ffynnon, y ffynnon y bu'r mynachod yn ymolchi ynddi, mor glir ac mor loyw ac mor gref ag erioed. Tebig iawn i'r ffynnon fach ydyw ysbryd Cristionogaeth. Codir llawer eglwys yn deml allanol i'r ysbryd hwn, a buan yr adfeilia honno. Y mae Eglwys Rufen heddyw yn adfeilion diobaith o amgylch ffynnon bywyd Eglwys Crist. Ond chwery'r ffynnon o hyd.