Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XV.

GYDA'R CENADWR.

Y MAE Quimper yn un o'r lleoedd tlysaf, gwelsom hynny ar unwaith. Y mae'r afon Odet yn rhedeg tan gysgod bryn serth coediog, ac ar lan yr afon, wrth droed y bryn, saif y dref. Wrth ddod o'r orsaf, gwelem ystryd hir yn rhedeg tua'r de, a'r afon yn rhedeg gyda'i hochr, — yn rhedeg ar hyd-ddi ddylaswn ddweyd, — oherwydd nid oes dai rhwng yr afon a'r ystryd. Rhwng yr afon a throed y bryn y mae rhes o dai, a phont yn croesi o'r ystryd at bob un o honynt. Yr ochr arall i'r heol, y mae rhes o fasnachdai a gwestai, tai prydferth a'u ffenestri yn llawn o flodau. Dros y rhai hyn, gwelem dai'r ystrydoedd eraill, — y mae Quimper yn dref bwysig, yn meddu dros bymtheng mil o drigolion. Uwchlaw popeth, ymddyrchafa dau bigyn uchel yr eglwys gadeiriol, — fel dwy glust mul,” ebe Victor Hugo.

Troisom o ystryd yr afon tua chanol y dre, a phenderfynasom mai'r Hôtel de Bretagne fyddai ein gwesty. Gŵr byr, pryd du, yn meddu'r enw priodol Le Bihan, oedd gwr y tŷ, a choffa da am dano, bu'n garedig iawn wrthym. Wedi cael lluniaeth a gorffwys, gofynasom iddo a wyddai rywbeth am genhadwr o Bryden Fawr oedd yng Nghuimper. Gwyddai'n dda, yr oedd pawb yn y dre yn gwybod am “M. Shincin Shòns," chwedl yntau. Da oedd gennyf glywed mai fel "y bugail Calfinaidd" yr adnabyddid Mr. W. Jenkin Jones, oherwydd Calfiniaid y gelwid hen arwyr Protestanaidd Ffrainc, Coligni, La Noue, Agrippa d’Aubigné, Duplessis Mornay, — rhai o'r dynion ardderchocaf