Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

welodd y byd. Anfonwyd plentyn gyda ni i ddangos lle'r oedd Mr. Jones yn aros, nid oedd y tŷ ond rhyw ychydig o gamrau o'r Hôtel de Bretagne. Gwelem oddiwrth yr enw, — Olgiati, — ac oddiwrth ymddanghosiad glân a chwaethus ffenestri'r siop, fod pobl y tŷ'n Swisiaid ac yn Brotestaniaid. Nid oedd Mr. Jones i mewn, ond nid oedd ymhell, a welem yn dda ddod i fyny i'w ystafell, ac eistedd nes y doi? Eisteddasom mewn ystafell brydferth gysurus, a thra'r oedd Ifor Bowen yn sylwi ar ddarluniau'r pregethwyr Methodistaidd oedd ar y muriau, rhyfeddwn i a fyddai W. Jenkyn Jones wedi altro llawer er pan oeddym yn cydefrydu yn Aber Ystwyth wyth mlynedd yn ol. Yr oedd ef ar adael yr athrofa pan oeddwn i'n dod yno o'r Bala. Bum yn cydymdynnu ag ef mewn arholiad, ac nid myfi enillodd, er y gallwn gysuro fy hun fy mod wedi curo pawb arall. Yr wyf yn cofio yr adeg y cychwynnai i Lydaw, a'r argraff dda a roddwyd ar y bechgyn gan waith ysgolhaig goreu'r coleg yn mynd allan yn genhadwr.

Daeth i mewn, ychydig oedd wedi newid, er fod ganddo farf a'i fod wedi ymdebygu rywfodd i'r Llydawiaid. Ni wyddwn a fuasai yn fy adnabod i, gan fy mod wedi heneiddio llawer mewn wyth mlynedd, a dywedais fy enw. Atebodd yntau, —

"Yr wyf yn eich cofio'n dda iawn. Mi wyddwn eich bod yn d'od drosodd, ond nis gwyddwn pryd. Damwain hollol ydyw fy mod yng Nghuimper heddyw, ac mae yn falch gen fy nghalon fy mod yma. Y mae'n wyliau arnaf fi yn awr, ond ces deligram oddiwrth gyfaill ddoe yn dweyd fod Roberts, Waverton, wedi dod yma i edrych am danaf. Dois innau adre ar fy union, ond yr oedd Roberts, Waverton, wedi mynd, ond mae'ch gweld chwi'n gwneud i fyny am y brofedigaeth."
"Ym mhle'r oeddych yn treulio'ch gwyliau ?"
"O, gyda'r Beibl gludwyr, buom yn teithio'r wlad i'r de oddiyma, hwy'n gwerthu Beiblau a minnau'n siarad â'r bobl."
"Ffordd ryfedd o dreulio gwyliau, gwaith fuasai'ch gwyliau chwi i lawer o honom. Beth yw eich rhagolygon yn Llydaw'n awr ? "