Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y mae'r Llydawiaid wedi cadw mwy o'u hen enwau priodol na'r Cymry. Oddigerth rhyw ychydig,—megis Llwyd, Anwyl, Gwyn—y mae enwau'r Cymry yn enwau dieithr. Jones, Williams, Evans, Roberts, Hughes, dyna ymron yr oll a feddwn. Gellir esbonio pam y mae'r enwau Cymreig wedi diflannu. Pan ddaeth y Normaniaid i Gymru, dechreuodd trigolion y wlad, yn ol eu hen arfer wasaidd, gymeryd enwau'r Saeson, a galwodd pawb ei hun yn John neu'n William neu'n Hugh. Erbyn y bymthegfed ganrif, byddai enw Cymro yn rhywbeth fel hyn, John ap Hugh ap Richard ap William ap Harri ap Robert ap Cadwaladr ap Rhydderch ap Llewelyn ap Gruffydd. Ond tyngodd yr esgob oedd yn Arglwydd Lywydd y Gororau tua 1540 na fedrai ef byth gofio mwy na dau enw ar yr un dyn, a gwnaeth gyfraith nad oedd yr un Cymro i fynd yn ol ymhellach na'i dad wrth ddweyd neu ysgrifennu ei enw. Ac felly cwtogwyd John ap John ap Hugh ap Richard ap William ap Harri ap Robert ap Cadwaladr ap Rhydderch ap Llewelyn ap Gruffydd nes oedd yn John Jones. Gadawyd ambell lecyn, megis Mawddwy, dan ei hen gyfreithiau, ac arhosodd yr enwau achyddol megis cynt. Clywodd gŵr o Lan— uwchllyn lais mawr, pan yn ei wely, o gors gerllaw ei dû. Deallodd oddiwrth y sŵn mai dyn o Fawddwy oedd wedi myned i'r gors ar ei ffordd adre, ac efe weithian wedi ymgyfnerthu â diod gadarn i wynebu ofnau Bwlch y Groes. Pwy sydd yna, druan? Dowch yma'n union i helpu William Sion William ap Sion Llywelyn ap Rhydderch mab yr hen Lywelyn Sion o'r gors." Helpwch eich hunain, y fileiniaid, y mae yna ddigon o honoch i lenwi'r gors, feddyliwn i."

Ond cadwodd y Llydawiaid eu henwau. Ar siopau Quimper yn unig gwelais y rhai hyn,—Castel, Morvan, Guezenec, Cardod, Madoc, Mancec, Guiomar, Rivoalen, Kergoat, Le Coz, Guiader, Le Gof, Troadec, Le Bras (Y Mawr, gwlaw bras), Le Balch, Le Hir, Le Bihan, Squannec (y dyn a'r clustiau hirion, cf. 'sgwarnog,