Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XVII.

Y DDINAS FODDWYD.

UN bore gwelid Ifor Bowen a minnau'n cyrchu tua thŷ'r cenhadwr, yr oedd wedi addaw dod gyda ni i Ddouarnenez. Pan oeddym yn pasio dan gysgod yr eglwys ar y ffordd i'r orsaf, gwelem hen ŵr hirwallt barfwyn yn prysuro adre heibio'r gornel. Luzel oedd, ond ni feddem amser i gael ymgom âg ef, rhag colli'r tren. Efe, Renan, a'r Vicomte de la Villemarqué sydd wedi gwneud mwyaf, o bawb sy'n fyw, dros lenyddiaeth Llydaw. Yr oeddym wedi meddwl cael ysgwrs â'r tri, ond ni wenodd Ffawd arnom.

Yn yr orsaf gwelsom lawer o Swissiaid Protestanaidd Quimper, yr oeddynt hwythau'n mynd i dreulio diwrnod ar lan y môr yn Nouarnenez. Yr oedd mab un ohonynt, ysgol feistr, newydd gyrraedd adre o Ffrainc, a dywedodd lawer wrthym am deimlad llywodraeth Ffrainc tuag at Lydaw. Yr un ydyw ag oedd teimlad Lloegr at Gymru ryw ychydig flynyddoedd yn ol, awydd dinistrio bywyd Cymru, a gwneud yr holl Gymry'n Saeson. Ni oddefir i un athraw esbonio gair yn Llydaweg i blant yn yr ysgol, rhaid dysgu plentyn uniaith Llydewig trwy gyfrwng y Ffrancaeg. Dan y drefn felltigedig hon yr addysgwyd finnau, lawer blwyddyn yn ol, mewn ysgol wledig yng Nghymru. Cymerir gofal, fe'm hysbyswyd, am anfon pob ysgolfeistr Llydewig i rannau arall o'r wlad; a dygir brodorion Ffrainc neu Wasgwyn yn eu lle i Lydaw. Ffranceiddio pob man ydyw amcan llywodraeth Ffrainc, trwy osod syniadau pechadurus am wag ogoniant Ffrengig ym meddyliau pawb. Edrychais o'm cwmpas, a gwelais