Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar gapiau'r plant enwau brwydrau gwaedlyd anghyfiawn Napoleon,—Marengo, Austerlitz, Jena. Ond ni welais Drafalgar na Waterloo na Sedan ar gap neb.

Yr oeddym yn teithio'n araf drwy wlad fryniog eithaf ffwythlon heibio Wengat a Iuch, yn y man croesasom bont dros afon oedd ar ymarllwys i'r môr, a dywedwyd fod Douarnenez yn ymyl.

O'r orsaf aethom drwy ystryd hir, gan ddal sylw ar y man bethau wna fywyd y pentrefydd Llydewig yn anhebig i fywyd pentrefydd Cymru, — yr esgidiau pren (bwtw coad); drym y criwr, yn lle cloch; y dull o bedoli ceffylau yn yr efail, lle gwelsom wyth o bobl a'u holl egni yn pedoli un ceffyl. Cyfeiriasom tua thŷ'r pregethwr Calfinaidd Le Groignec, a theimlem yn gartrefol iawn wrth feddwl am ymweled â phregethwr Methodist o Lydawr. Mewn lle dieithr, i dŷ'r pregethwr yr eir yn aml am gyfarwyddyd, ac y mae hyn yn beth i'w synnu ato pan gofiom nad oes undyn mwy prysur nag ef. Ond clywsom nad oedd gartref, a throisom i dŷ'r is lys-genhadwr Norwegaidd, hen ŵr tal urddasol, sy'n preswylio yn Nouarnenez i achub cam y Norwegiaid Lutheraidd sy'n dod yma i werthu tar a rhaffau i'r pysgotwyr. Oddi yno aethom trwy'r pentref tua'r môr. Eglwys newydd ydyw'r eglwys, dynwarediad gwael a di-enaid o eglwys Quimper; a phentref tlawd hyll ydyw'r pentref, — tai budron wedi eu hadeiladu yn dyn yn ei gilydd. Ond am y môr, ni welais ef mor ogoneddus yn unlle erioed. Prysurasom heibio'r adeiladau lle pecir sardines, gan gau ein ffroenau rhag y drewiant gyfyd o'r miloedd pennau pysgod oedd yn pydru ym mhob agen, esgynasom fryncyn gwyrdd, gwelsom y môr o'n blaenau, a daeth awel iach oddiarno i'n cyfarfod. Yr oeddym wedi clywed nad ydyw Bau Douarnenez yn ail ond i Fau Naples yn unig mewn prydferthwch. Nid ydyw awyr Llydaw mor glir ag awyr yr Eidal, na'r lliwiau mor dyner a gogoneddus, ond y mae Bau Douarnenez yn hyfrydwch i bob llygad