a'i gwel. Y mae wedi ei gau i mewn ar bob ochr ond un gan fynyddoedd. Oddiar y bryn y safem arno gwelem holl gylch ei draethell. —llethrau grugog a Ilanerchi bychain o dywod melyn disglair yn agosaf atom, a rhimin o fynyddoedd gleision yn y pellter, yn ymestyn i'r môr ar lun pen ysgyfarnog. Yr oedd yn amser i'r cychod fynd allan i bysgota, ac yr oedd ugeiniau ohonynt yn cyfeirio tua phen y llwybr i'r môr agored heibio godrau'r mynydd sy'n sefyll yn y môr. Goblygai eu hwyliau bychain duon i'r un cyfeiriad, yr oedd y cychod yn dduon, fel pebyll Cedar, ar y dwfr glas, ac yn hawddgar iawn. Ymddanghosai'r bau'n dlysach na'r tir, yn fwy heddychlon na'r môr, yr oedd y cychod bach yn berffaith ddiogel wrth ddawnsio'n ddistaw ar ei dennau mân, a meddyliwn fod pob Llydaw- iad oedd ar y bau wedi gweddio gweddi'r pysgotwr, — "O Dduw cadw fi, mae dy fôr di mor fawr, a'm cwch innau mor fach."
Bu'r bau tonnog hwn yn ddol werdd unwaith, medd hen hanes. Yn y bumed ganrif teyrnasai Gradlon Mawr ar Gaer Is, y ddinas ar y gwastadedd oedd yn is na'r môr pan fyddai'r llanw i mewn. Dyma oedd "Cantre'r Gwaelod" yn Llydaw, a Gradlon Mawr, fel Seithenyn Feddw, oedd yn cadw allweddau'r môrddrysau. Yr oedd sant yn Llydaw'r adeg honno, o'r enw Gwenole, ac yr oedd hwn wedi hen rybuddio Gradlon fod perigl mewn gwleddoedd a gwin. Yr oedd gan Radlon ferch brydferth, hefyd, o'r enw Dahut, ac yr oedd ganddo elyn. Gwelodd Dahut y gelyn hwn, a hoffodd ei bryd a'i wedd. Cyn hir, cymerodd ei darbwyllo ganddo i ladrata'r allweddau oddiar y gadwen oedd am wddf ei thad, a'u rhoddi iddo ef. Agorodd yntau'r drysau pan oedd pawb yn cysgu yn nyfnder y nos, ac erbyn y bore ni welid ond môr lle buasai Caer Is. Clywodd rhywun sŵn y dyfroedd yn dod, a medrwyd cyfrwyo march Gradlon mewn pryd iddo ddianc. Rhoddodd Ddahut ei ferch wrth