Y mae Le Groignec yr un ffunud a phregethwr Methodist Cymreig, ac y mae ei wraig yr un fath yn union a gwraig pregethwr Methodist, — yn llawen, yn hardd, yn groesawgar. Y tu allan i Gymru, nid oes yn y byd gystal merched a merched Llydaw. Cawsom ginio cysurus, ar liain cyn wynned a'r eira, cofiodd Madame Le Groignec mai Prydeiniaid oeddym, a chawsom de fel bys. Yr oeddym oll yn teimlo ein bod yn un teulu, caneuon a chrefydd a theimladau Cymru oedd ein caneuon a'n crefydd a'n teimladau ni y prynhawn hwnnw. Llydaweg oedd yr iaith, ond nid oeddym yn cofio nad Cymraeg oedd. Yr oedd un o ferched bach Le Groignec yn chware'r piano,—hyhi sy'n chware yn y capel, — a'r lleill yn canu. Yr oedd un emyn prydferth yn dechre,
"Iesu, rwy'n hiraethu am danat."
Ond y peth mwyaf tarawiadol i ni oedd clywed y Delyn Aur,—
"Ne fo ffin da gana ha meuli
Iesus Crist da firicen,
Tent hog eled gano assambles
He fadeles da bep den,
Ne fo bicen
Ffin da son am delen aour."
Aethom i weled yr ystafell genhadol. Rhan o dŷ coed ydyw, ystafell isel, dywell, mewn lle budr. Ar noswaith cyfarfod, medr y gelynion wneud gwrando'n beth amhosibl, ac y mae'r arogl ymgyfyd o'r tomennau gerllaw yn anioddefol bob amser. Perigl parhaus oedd syrthio ar draws plant, creaduriad bach budron hanner noethion oedd yn chware yn y llwch a'r tomen— ydd. Yr oedd un peth yn anwylo'r bodau bach hyn i ni ar unwaith, clywem bwy'n gwaeddi mam,' y gair cyntaf ddysgasom ninnau erioed. Os hoffech gryfhau'ch sel dros y genhadaeth yn Llydaw, ewch yno a gwrandewch ar y plant yn chware; cewch deimlo, mewn graddau anfeidrol lai, deimladau Tad Nefol wrth glywed pechaduriaid, ym mangre pechod a dioddef, eto'n siarad rhywbeth tebig i hen iaith y wlad well.