Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/127

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Aethom trwy'r ystrydoedd i'r pen arall i'r pentre i weled yr ystafell genhadol newydd. Gŵr canolig o ran taldra ydyw Le Groignec, gyda llais treiddgar heb fod yn ddwfn, a wyneb yr un bictiwr a Henry Jones, Capel Garmon gynt. Dywedodd wrthyf mai mynach oedd unwaith, yn ei gell gwelodd dwyll Pabyddiaeth, darllennodd ei Feibl, gwelodd oleu, daeth yn Brotestant, a phriododd. Wrth gerdded ymlaen, gwelem fod braidd bob Llydawr yn rhoddi ei fys ar gantel ei het i'r ddau genhadwr, tra na welem neb yn moes gyfarch yr offeiriaid Pabaidd. Mae'n amlwg fod y Llydawiaid yn parchu'r bugeiliaid Calfinaidd, tra nad oes ond ofn yn eu cadw wrth y lleill.

Erbyn i ni edrych yr ystafell newydd, yr oedd yn dechre nosi, ac yr oedd amser y tren yn agoshau. Rhwyfasom dros yr afon, yr oedd y llanw'n codi'n gyflym, ac aethom i'r orsaf hyd ffordd agosach na'r un y daethom ar hyd—ddi. Siaradai'r cenhadwr Lydaweg a'r cychwyr, er braw iddynt,—"O, 'roeddem ni'n meddwl mai Ffrancod oeddych chwi." Yr oedd y lleuad i'w gweled yn nofio ar y tonnau sydd uwchben y wlad a foddwyd, gwelem hwyliau duon y cychod rhyngom a'r goleu gwyn, noswaith aeddfed yn yr haf oedd honno, ac y mae'n sicr gennyf na fu Douarnenez erioed yn brydferthach.

Yr oedd y cwmni Protestanaidd yn yr orsaf o'n blaenau, a chawsom ymgom am ddemocratiaeth Cymru ar hyd y ffordd adre. Wedi cyrraedd y dref, yr oeddym yn gorfod ffarwelio â'r cenhadwr, gan ein bod yn cychwyn yn blygeiniol drannoeth tua'r de. Buasai'n dda gennym gael myned i Bont l'Abbé, ond cofiasom fod miloedd o fysedd clociau yn symud ymlaen yn ddibaid. Ac yma y gadawsom W. Jenkin Jones a'i obaith am Lydaw, a'i gred fod pethau mawr ar ddigwydd.