Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/133

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XIX

DINAS AR FRYN

WELAIS ddau ymadrodd o Saesneg yng ngorsaf Auray—hysbysiad am "steeple—chase oedd i gymeryd lle y Sul canlynol, a genuine toilet soap ar focs llawn o bysgod. Danghosodd Ifor Bowen i mi eneth hawddgar oedd yn rhodio ymysg y bobl,—" Dacw i ti, mae pawb yn edrych arni, 'does dim ond geneth dlos gaiff warogaeth gan bawb ym mhob man." Ymysg yr offeiriaid tewion cnawdol trwynsur yr oedd un gŵr ieuanc llathraidd hardd, — gwridodd pan welodd fi'n sylwi ei fod yntau'n cael mwynhad o syllu ar harddwch yr eneth honno. Ni raid i mi ddweyd mai Llydawes oedd. Y mae'r Llydawesau'n groenlan iawn, ond y mae'r llwch fel pe byddai wedi myned i grwyn y francesau, rhywbeth fel pe bai wedi ei pholsio ydyw Ffrances hardd.

Yr oedd yn hen brynhawn arnom yn cyrraedd Vannes, a hyfryd oedd cysgodion ei heolydd wedi'r gwastadedd poeth. Wedi ymgartrefu yn yr Hotel de Morbihan, troisom i'r eglwys i orffwys. Y tu allan gwelsom res o fwaau prydferth toredig, a theimlasom fod rhywbeth yn fawreddog iawn yn y pentwr adeilad eang a di- drefn. Y mae braidd yn rhy orwych oddimewn, ond, gan fod y ffenestri’n fychain fychain, ymddengys yr hen eglwys yn dawel a phrudd. Yr oedd yno lawer o bobl, yn ddefosiynol iawn. Daeth gŵr goludog i mewn ar ein holau, clywsom fegeriaid yn galw ei sylw wrth y drws, penliniodd, tynnodd gadwen aur o'i boced, ac aeth trwy ei weddiau'n rhigil ddigon. Prin yr oedd wedi codi pan ddaeth haid o offeiriaid o gapel gerllaw, heb eillio ers pedwar diwrnod ac heb olchi eu hwynebau ers pedwar mis, ac aethant