y wal o frics cochion sy'n dalcen i'r eglwys fawr yr oedd darlun o enedigaeth Crist, ac ar yr allor odditanodd gwelsom yr addoliad Pabyddol,— miloedd o ganhwyllau dime, offeiriaid laweroedd mewn dillad gwyn, yn hanner dawnsio'n ol ac ymlaen, ac esgob a'i gap fel dwy glust o chwith. Gwelsom yr arddodiad dwylaw a gorymdaith yr esgob, — ac ni welsom grefydd yn cael ei darostwng gymaint yn unlle erioed. Ni ddywedodd yr esgob air am iachawdwriaeth, ond cerddodd ymlaen trwy'r eglwys mewn dillad gorwych, a'i fugeilffon emog ar ei ysgwydd, a gemau'n disgleirio ar ei fysedd merchetaidd gan fowio a mwmian. Aeth yn ol i'r allor, a thra'r oedd y côr yn canu peth na ddeallai'r bobl, ymbinciai yntau yn ei sêt fel merch falch Hafod yr Aur. Meddyliais am ein hen weinidog gwledig, ac am ei wisg ef, nid sidan gorwych a gemau disglair, ond gwregys gwirionedd, dwyfronneg cyfiawnder, esgidiau paratoad efengyl tangnefedd, tarian y ffydd, helm yr iachawdwriaeth, a chleddyf yr Ysbryd, yr hwn yw Gair Duw.
O'r eglwys aethom i'r gerddi, lle gwelsom bobl yn dawnsio dan lwyni ardderchog o goed, llwyni fel bwâu eglwys gadeiriol, a holl eangder y wlad i'w weled odditanynt. Gorfod i ni aros yn hir yma, oherwydd daeth yn wlaw mawr. Nid glaw gyrru ystormus fel glaw Cymru, ond cawod o wlithlaw yn disgyn fel gorchudd dros y wlad fawr. Buom yno'n disgwyl iddo beidio am oriau, — un siwt oedd gennym. Weithiau gwelem Font St. Michel yn llwyd drwy glog lâs y glaw, dro arall ymgollai drachefn mewn cawod newydd. O'r diwedd, cawsom hanner awr o sychin i redeg i lawr i'r Hotel Bonneau, lle buom yn darllen papurau cymundeb y plant ac yn eu hannog i ddarllen y Beibl.
Bore dydd Llun, teithiasom tua Granville trwy Folligny, lle y mae gorsaf mor fawr fel y tybiem ei bod yn ddiwrnod sasiwn trenau. Cawsom gwch Ffrengig i Jersey, a buom yn mwynhau'r olygfa o weled dandi Ffrengig dan saldra'r môr, gyda'i ddillad goleu, ei drowsus tyn, ei gansen felen, ei gyff a botymau fel