Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yno o rywle, a'r geiriau "Bible Carriage" mewn llythrennau melynion ar ei thalcen. Ynddi yr oedd dau ddyn, a chymerodd y rhai hyn eu dameg, ac anerchasant y dyrfa. Albanwr oedd y cyntaf, a dywedai wrth y Wesleaid trwsiadus oedd o'i flaen nad oedd dim haeddiant mewn mynd i'r capel, a chadw Ysgol Sul, a rhoi at y Genhadaeth, a gwisgo ruban glâs, os nad oeddynt wedi teimlo eu hunain yn cael eu hysgwyd uwch ben ufîern, ac ymron cyffwrdd â'r fflamau. Dywedai hyn oll âg un law yn ei boced, mor oeraidd a phe bai n dadleu rhagorion pelennau neu ryw feddyginiaeth fydenwog arall. Pan oedd yn tynnu at yr Amen, clywid tinc y delyn yn y pellter, a gwich Judy. Buan yr heliodd Satan ei blant i'w cynefin, ac ni adawyd i ganu ar ddiwedd y bregeth ond ychydig o'r ethol deulu sy'n edrych ar y rhan fwyaf o fywyd y byd hwn fel gwagedd a blinder ysbryd. Wedi canu, ymddanghosodd y pregethwr arall, dyn eiddil, yn gwichian brawddeg, ac yna'n distewi am ennyd cyn gwichian un arall. Yr oedd dull ymadrodd hwn mor erchyll fel yr oeddym yn hiraethu am yr un fu'n siarad o'i flaen. Rhoisom dro i edrych sut yr oedd plant y byd hwn yn mwynhau eu gwagedd; ac erbyn i ni ddod yn ol, yr oedd y pregethwr bach yn dal ati'n ffyddlon o hyd. Un gwrandawr oedd yn aros, ac yr oedd hwnnw'n graddol gilio ymaith i'r tywyllwch oedd erbyn hyn yn cuddio'r ddaear a'r môr. Bu plant y byd hwn yn gallach yn eu cenhedlaeth y min nos hwnnw na phlant y goleuni; yr oedd eu stori'n fyrrach ac yn fwy bywiog, ac wrth i ni droi tua'r llong, nid adrodd y pregethau wnai Ifor Bowen, ond dal i ganu beth ddywedwyd wrth yr adar am y gwanwyn hardd.