Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

II.

YNYSOEDD DEDWYDD.

“Efe a wareda ynys y diniwed,
A thrwy lendid dy ddwylaw y gwaredir hi.”
JOB.

MEWN ffordd gŵyr teithwyr yn dda am dani, enillasom barch serch hen stiward patriarchaidd y llong. Cawsom y gwelyau goreu, a daeth yr hen frawd i esmwythau ein pulw ac i ddweyd nos da. Cysgais i, wedi rhoi cadach coch am fy mhen a dweyd fy mhader. Tybiwn glywed sŵn y môr yn ymgryfhau, ond ni wyddwn pa un ai'r llong oedd yn cychwyn trwy'r tonnau, ynte ai myfi oedd yn crwydro ar hynt freuddwydiol. Yr oedd y bore wedi torri pan ddeffroais, a chlywn ru'r dyfroedd wrth i'r llong ymdreiglo fel peth meddw drwyddynt. Neidiais oddiar fy silff, ac wedi syrthio ar draws pob celf oedd ar fy llwybr, cyrhaeddais y dec. Taflodd ton gwr gwyn ei mantell ar draws fy nannedd wrth fynd heibio, a gwnaeth fi'n effro iawn. Edrychais yn ol tua Lloegr, nid oedd ond tonnau brigwyn, fel mynyddoedd dan eira, yn y cyfeiriad hwnnw. Gofynnais i forwr lle'r oedd y Caskets, gan fod arnaf eisiau gweled y môr yn trochionni o'u cwmpas. Yr oeddym wedi eu pasio ar y cyfddydd, ac yr oedd ynys Guernsey'n dechre dod i'r golwg. Eis i lawr i ddweyd bore da wrth Ifor Bowen. Ni fedraf ddarlunio saldra'r môr, yr oedd yno lawer yn llawenychu wrth fy nghlywed yn dweyd fod Guernsey yn ymyl, ac ni chlywais neb yn canu, —

"Ac yn dwedyd wrth yr adar,
Wele daeth y gwanwyn hardd."

Rhwng y Caskets a Guernsey, y mae môr na fydd byth yn llonydd; pan fo'r tonnau'n gorffwys ymhobman arall, byddant yn ymladd ac yn ymwylltio yma. O noswaith yn yr haf, yr oeddym wedi cael mordaith