Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ystormus; ac er fod y bore'n dawel, yr oedd y llong yn dal i godi a syrthio ym maes brwydr y tonnau aflonydd hyn. A thra'r oedd y llong yn ymlwybro rhwng y creigiau perigl sydd ar draethell Guernsey, yr oedd nifer o wynebau gwelwon, wynebau rhai na fynnent sôn am frecwest, yn edrych yn hiraethlawn tua'r lan. Cyn hir, angorasom yn hafan dawel Pedr Sant. Yr oedd y cei'n llawn o bobl yn disgwyl am danom, a thra'r oeddym yn cerdded hyd y bwrdd i edrych ar y dref orchuddiai'r hanner cylch o fryniau sy'n cysgodi'r porthladd, yr oedd rhywun beunydd yn cynnig i ni bapur newydd, neu'n dangos basged lawn o rawnwin gwyn a choch.

Prin yr oedd yr haul wedi cynhesu, — nid oes neb mor ddiolchgar am gynhesrwydd yr haul a'r rhai fu'n sal ar y môr,— pan welwyd merched y ffrwythau'n prysuro i'r lan, a gwelsom y bobl ar y cei yn mynd bellach bellach oddiwrthym. Moriasom gyda glan yr ynys, cyn troi i'r môr agored. Gwelsom fod Guernsey wedi ei hamgylchynnu gan fur o greigiau uchel. Wrth odre y rhai hyn y mae digonedd o fôr lysywod, ac yn y tyllau sydd yn eu bronnau duon, ymnytha miloedd o wylanod. Tra'r oeddwn yn syllu ar y creigiau, ac ar y llanerchi tatws welwn dros rai ohonynt, clywn lais yn gofyn a welais Guernsey o'r blaen. Hen ŵr oedd yno, wedi dod i'r llong yn Guernsey, hen ŵr cam, wedi plannu llawer o datws, ac wedi gwneud llawer o arian. Rhyw un mil ar bymtheg o aceri ydyw'r ynys, meddai, ac mae dau ddyn ar bob acer ar gyfar- taledd, ac y mae pob acer yn werth deg punt o rent. Porir rhyw un ran o dair o'r ynys, gorchuddir dros ei hanner gan datws. Cludir y rhai hyn i Lunden ar hyd y môr; ac er cymaint y pellter, gellir cystadlu à lleoedd yn ymyl y ddinas, gan na thelir rhent na threth ar y môr, —

Heb rent nac un gofynion
Yn y môr,
Ni thelir treth tylodion
Yn y môr.