Yr oedd yr hen ŵr yn meddwl y byd o'i ynys. Siaradai am ei senedd, am y cyfreithiau wneir gan yr ynyswyr eu hunain, am gyfoeth a diwydrwydd y bobl, am yr awyr dymherus, am y caeau blodeuog, heb dwrch na llyffant na dim gwenwynig. Synnai nad oeddwn wedi clywed am lili'r ynys. 'Does dim arogl arni, meddai, ond y mae'n un o flodau prydferthaf y byd. Mewn dull rhyfedd y daeth i Guernsey, brodor o Japan yw. Aeth llong oedd yn dychwelyd o Japan yn ddrylliau ar y creigiau hyn ryw ddau can mlynedd yn ol. Ni achubwyd neb, ond cludodd y tonnau lili i'r lan, a gwreiddiodd hithau yn agen y graig. Bu yno am flynyddoedd heb i neb syllu ar ei thlysni, ond gwelodd rhyw bendefig hi, a daeth y lili yn wrthrych edmygedd y byd. Ac hyd heddyw, ni fyn flodeuo mor brydferth yn unlle ag yn yr ynys lle'r achubwyd hi.
Wedi i'r llong adael cysgod creigiau Guernsey, ail ddechreuodd y tonnau ei lluchio, a thorrai'r môr yn genllif ewynog drosti weithiau. Canlynid ni gan rai o'r gwylanod, ac wrth deimlo ysgytiadau ein llong afrosgo feddw ni, eiddigeddwn wrth eu mordaith dawel hwy uwch ein pennau, yr oedd y gwynt mewn heddwch a hwy, prin y cyffyrddai â'r un o’u plu eiraog. Pan fyddai'r llong ar frig y don, gwelwn yr ynysoedd eraill. Yr agosaf atom oedd Jethou fechan, gyda'i deugain acer a'i phedwar preswyliwr. Y tuhwnt iddi gwelem Herm, lle mae glaswellt ar y ffyrdd ac ugain o bobl. Y mae Sark, y bellaf welem, yn fwy, ac y mae arni chwe chant o bobl. Ymgodai fel mynydd grugog o'r môr aflonydd lle collwyd cynifer o fywydau. Cyn hir. gwelwn Jersey, y fwyaf a'r bwysicaf o'r ynysoedd Buom awr yn morio gyda'i glan i St. Helier, ei phrif ddinas. Y mae hithau mewn rhwymyn o greigiau gwenithfaen, dorrir gan ambell i fau, gyda thywod melyn a chaeau tatws, fel pe bai llawnder yr ynys yn rhedeg drosodd.
Er fod yr ynysoedd hyn yn perthyn i'r goron Brydeinig y mae pob un o honynt mewn gwirionedd yn weriniaeth.