Tudalen:Tro yn Llydaw.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Perthyn i Normandi yr oeddynt, a hwy'n unig sy'n aros o feddiannau Ffrengig brenhinoedd Normanaidd Lloegr. Penodir prif swyddog yr ynysoedd, — y beili, — gan y frenhines, a gellir apelio ati o'r llysoedd cyfraith. Gyda hyn o eithriad, rheola'r ynyswyr eu hunain. Ymgyfarfyddant yn eu senedd, gwnant gyfreithiau, codant eu cyllid fel y mynnont, rheolant eu haddysg a'u masnach yn ol eu hewyllys. Sieryd pawb Saesneg a Ffrancaeg yn rhigil, er mai Ffrancaeg yn unig siаredir yn y seneddau, oherwydd mai hi yw hen iaith yr ynys. Y mae pobl ddwyieithog yn ddeallgar ac yn dda allan bob amser; nid oes gwell addysg at fasnach yn bod na dysgu dwy iaith. Y mae ynyswyr y Sianel yn feddylgar, yn gynnil, yn meddu eiddo eu hunain. Yn aml, hwy bia eu ffermydd bychain; a phan nad ydynt ond tenantiaid, ni fedrir eu troi ymaith tra bônt yn talu'r rhent arferol. Ar farwolaeth y perchennog, rhennir y tyddyn rhwng ei ferched a'i feibion, fel y gwneir yn Ffrainc; ni roddir braint i'r mab hynaf, fel y gwneir yn Lloegr. Y mae y dull hwn yn fwy rhesymol, ond y mae iddo ei anfanteision. Yn Ffrainc, y mae'r ffermydd wedi eu rhannu mor fân fel y gellwch neidio o glawdd i glawdd dros y wlad. Ond yn Jersey, ni ellir rhannu pan elo'r ffarm yn rhyw dair acer. Nid yw'r ddaear yn naturiol ffrwythlawn, ond trwy ynni'r ynyswyr a'u medr amaethyddol, codir gwerth can punt oddiar un acer mewn un flwyddyn. Gwyddant pa ddefnydd i wneud o'u tir, gwyddant pa wrtaith y mae yn ofyn, a gwyddant ym mha farchnad i werthu eu cynnyrch. Y mae gan Gymru ei dwy iaith, fel Jersey, er na siaredir ei Chymraeg yn ei hysgolion na'i llysoedd cyfraith na'i chynghorau. Pe ceid hynny, a phe cai amaethwyr Cymru fanteision amaethwyr Jersey, sicrwydd am eu tyddynod, rhent deg, ac addysg amaethyddol, — byddent mor ddiwyd a chyfoethog a'r ynyswyr dedwydd hyn.